MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,424 - £25,199 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £24,424 - £25,199 / blwyddyn
Cynorthwyydd GweinyddolApplication Deadline: 14 March 2025
Department: Swyddfa'r Campws
Employment Type: Dros dro
Location: Campws Graig
Compensation: £24,424 - £25,199 / blwyddyn
DescriptionMae gan Goleg Sir Gâr gyfle cyffrous ar gyfer Cynorthwyydd Gweinyddol wedi'i leoli ar ein Campws y Graig yn Llanelli. Rôl dros dro yn ystod absenoldeb mamolaeth yw hon am 37 awr yr wythnos lle byddwch yn gweithio o 8:45am tan 5pm ar ddydd Llun i ddydd Iau, 8:45am tan 4:30pm ar ddydd Gwener.
Campws y Graig yw'r mwyaf o bum campws Coleg Sir Gâr ac mae wedi'i leoli ger pentref Pwll ar arfordir De-orllewin Cymru yn Llanelli. Gyda golygfeydd dros benrhyn Gŵyr cyfagos, mae'r Campws yn lle gwych i astudio/gweithio gydag ystod o gyfleusterau.
Ceir ymdeimlad gwych o gymuned a bywiogrwydd ar y campws, sy'n deillio o gyfuniad o fyfyrwyr brwdfrydig yn astudio gwahanol ddisgyblaethau. Maen nhw'n cael eu meithrin, yn derbyn gofal ac yn cael eu harwain gan aelodau o staff ymroddgar a phrofiadol sy'n eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn, gan eu galluogi i symud ymlaen i'r cam nesaf yn eu haddysg, boed hynny mewn coleg, mewn prifysgol, mewn swydd neu mewn hunangyflogaeth.
Mae'r campws hefyd yn gartref i 6ed Sir Gâr, cyfleuster Safon Uwch y Coleg sy'n cynnwys y rhaglen Mwy Galluog a Thalentog (MAT) a'r Academi Chwaraeon sy'n darparu cyfleoedd chwaraeon ar gyfer athletwyr elit mewn ystod o gampau.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?Bydd y cynorthwyydd gweinyddol yn gweithio fel rhan o'n Swyddfa Gampws i ddarparu gwasanaeth effeithlon a gwybodus i'r holl ddysgwyr, staff ac ymwelwyr. Efallai y bydd rhai o'r dyletswyddau'n cynnwys gwaith derbynfa, ateb y ffôn, a gwaith gweinyddol cyffredinol arall.
Mae cynorthwywyr gweinyddol yn gweithio'n agos iawn gydag ystod o staff ar draws ein campysau lle byddant yn prosesu bwciadau ar gyfer cerbydau'r coleg, bwciadau mewnol am ystafelloedd, ac adroddiadau absenoldebau staff/myfyrwyr. O ran materion ariannol, efallai y bydd rhai tasgau'n cynnwys dosbarthu arian mân, bancio, a chasglu amrywiol incwm y Coleg megis ffioedd cofrestru a thaliadau DBS.
Beth sydd angen arnoch chi?I fod yn llwyddiannus, byddwch chi angen profiad gweinyddol perthnasol a phrofiad o ddefnyddio Microsoft Office neu systemau tebyg. Yn ddelfrydol byddwch chi'n meddu ar ddealltwriaeth dda o faterion a datblygiadau mewn addysg bellach ac uwch, fodd bynnag, nid yw hyn yn hanfodol.
Oherwydd natur y rôl a chael mynediad i wybodaeth sensitif, mae'n ofynnol i gynorthwywyr gweinyddol gadw cyfrinachedd llym a gweithio gyda diplomyddiaeth a thact. Sgiliau dadansoddol da, gallu gweithio dan bwysau, a lefel uchel o hunan-gymhelliant.
I gael mwy o wybodaeth am y rôl, neu i drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.
Yr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein