MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon â Lwfans Anghenion Addysgol Arbennig (AAA - £2,728)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (YGG Awel Taf)
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon â Lwfans Anghenion Addysgol Arbennig (AAA - £2,728)
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (YGG Awel Taf)Disgrifiad Swydd
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (Anghenion Dysgu Ychwanegol Sylweddol) wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf
Nifer yr oriau fesul wythnos: 32.5 Oriau
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon â Lwfans Anghenion Addysgol Arbennig (AAA - £2,728)
Dyddiad Dechrau: 01/09/25
Mae Gwasanaethau Cynhwysiant a Mynediad Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi athro â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cymorth Dysgu ar gyfer disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol Sylweddol.
Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol Sylweddol yng nghyd-destun ysgol brif ffrwd. Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i oddeutu 10 disgybl o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 a bydd yn cael ei staffio gan athro ac un Cynorthwyydd Cynnal Dysgu.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol Sylweddol a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol. Bydd disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus heb hyfforddiant arbenigol gwblhau hyfforddiant arbenigol priodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Jenkins yn y Canolfan Menter Y Cymoedd, Parc Hen Lofa’r Navigation, Abercynon, CF45 4SN neu ffoniwch 01443 744333.
Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos (12pm) ar 21/03/2025. Cyfweliad I'w gadarnhau.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.