MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Croesty Primary School,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £3,421 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Croesty
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £3,421 y flwyddyn
Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd CroestyDisgrifiad swydd
6.25 awr yr wythnos
Mae Ysgol Gynradd Croesty am benodi Cynorthwyydd Goruchwylio Amser Cinio i weithio yn ystod amser cinio am 1 awr a 15 munud bob dydd, Dydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.
Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 19 Mawrth 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Mawrth 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 27 Mawrth 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person