MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro Daearyddiaeth - Ysgol Harri Tudur / Henry Tudor School
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
Ysgol Harri TudurAthro Daearyddiaeth 0.8/1.0
Prif Raddfa Gyflog/Y Raddfa Gyflog Uwch
Rydym yn chwilio am athro Daearyddiaeth rhagorol. Byddwch yn unigolyn deinamig, uchelgeisiol a brwdfrydig sy'n gadarn ond yn deg ac sy'n meddu ar rinweddau arweinydd yn y dosbarth a fydd yn eich galluogi i addysgu Daearyddiaeth i CA3, CA4 a CA5. Gall y gallu i addysgu Addysg Grefyddol a/neu'r Dyniaethau fod yn fantais.
Mae Ysgol Harri Tudur yn ysgol gyffrous a chroesawgar i weithio ynddi. Mae ein hysgol yn parhau ar ei thaith gwelliant cyflym er mwyn ceisio rhagoriaeth, yn dilyn ein hadroddiad cadarnhaol gan Estyn ym mis Ionawr 2022.
Rydym yn croesawu'n gynnes ymgeiswyr dawnus, uchelgeisiol, egnïol a gwydn sydd nid yn unig yn dymuno ymuno â ni ar y daith honno, ond sy'n gallu ac yn barod i wneud cyfraniad gwerthfawr at ei llwyddiant yn y dyfodol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflawni'r gofynion canlynol:
- Byddwch yn ymarferwr dosbarth rhagorol
- Byddwch yn arbenigwr pwnc arloesol
- Byddwch yn gyfathrebwr canmoladwy
- Byddwch yn meddu ar y weledigaeth a'r egni i sicrhau bod pob un o'n disgyblion yn llwyddo
- Byddwch yn gallu ysgogi, herio, cefnogi ac ysbrydoli ein disgyblion
- Byddwch yn ymrwymedig i godi cyrhaeddiad ar draws pob gallu, beth bynnag fo'u man cychwyn
- Byddwch yn ymroddedig i gefnogi cydweithwyr
- Bydd gennych brofiad o roi newid ar waith sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ddysgu disgyblion
- Byddwch yn angerddol am Ddaearyddiaeth a dysgu Daearyddiaeth
Ar gyfer ymweliadau anffurfiol ag ysgolion, cysylltwch â Mr Nick Makin, Rheolwr Busnes yr ysgol drwy anfon neges ebost at nicholas.makin@yht.wales
Am sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Mr T Crichton, Dirprwy Bennaeth drwy anfon neges ebost at thomas.crichton@yht.wales neu ffoniwch 01646 682461
Ewch i'n gwefan www.yht.wales
Mae'n ddrwg gennym na fydd modd inni roi adborth i ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr lenwi ffurflen gais a llunio llythyr cais sy'n mynd i'r afael â sut y maent yn bodloni manyleb y person. Anfonwch eich llythyr cais at headteacher@yht.wales
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.