MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
Mae corff llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau am benodi dau athro llawn amser ar sail parhaol. Mae hwn yn gyfle gwych i ddau ymarferydd ymroddgar, brwdfrydig a myfyriol sydd ag ymrwymiad cryf i wella a rhagori ym maes addysgu. Mae croeso i athrawon newydd gymhwyso gwneud cais.Byddwch yn ymuno â ni ar adeg o ddatblygiadau cyffrous yn Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau, gan ein bod wedi gweithio'n ddiflino dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ymwreiddio ein cwricwlwm newydd, a'n dulliau addysgu a dysgu, a ddefnyddir yn yr ysgol. Mae hwn yn gyfle i ymuno â ni a pharhau i adeiladu ar ein llwyddiannau diweddar. Rydym yn addo cynnig cyfleoedd cynhwysfawr a chyfoethog ar gyfer datblygiad proffesiynol i bob aelod o staff.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan annatod o'n tîm, gan weithio i arwain yr ysgol at ein huchelgais o fod yn ysgol ragorol. Byddai'r swyddi hyn hefyd yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd ag uchelgais ar gyfer bod yn arweinwyr yn y dyfodol, ac mae cyfleoedd i arwain yn codi'n gyson yn ein hysgol.
Sut mae ein hathrawon yn teimlo wrth weithio yma? "Mae ein hysgol ni'n ysgol gyfeillgar a chroesawgar sydd wedi ymrwymo i gynnig gofal rhagorol i'n disgyblion a datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i'n staff. Byddwch yn cael y buddion uniongyrchol o ymuno â thîm o staff ymroddedig, cydweithredol a chyfeillgar, sy'n gwbl ymroddedig i roi eu gorau glas i bob plentyn mewn ysgol lle mae pob plentyn yn bwysig a phob eiliad yn cyfrif".
Rydym yn chwilio am rywun sy'n bodloni manyleb y person yn y swydd-ddisgrifiad ac sy'n bodloni'r canlynol:
- yn ymarferydd cynradd o ansawdd uchel gyda dyheadau uchel i ddisgyblion
- yn angerddol ac yn wybodus am ddysgu ac am ddatblygiad plant, ac yn cymhwyso'r wybodaeth honno yn yr ystafell ddosbarth i sicrhau'r cynnydd gorau posibl i bob dysgwr.
- yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o addysgeg, ac yn ymwneud â'r pedwar diben a'r profiadau dysgu sy'n ganolog i ddiwygio'r cwricwlwm ar hyn o bryd.
- yn ofalgar, yn garedig, yn amyneddgar ac yn meddu ar synnwyr digrifwch i roi'r cymorth a'r cyfarwyddyd sydd eu hangen ar ein disgyblion i fod yn llwyddiannus.
Cysylltwch â Stephen Thomas, pennaeth yr ysgol, ar 01646 693861 neu 01646 692705 pe hoffech drafod y swydd wag neu ymweld â'r ysgol.
Dyddiad cau: Dydd Llun, 10 Mawrth 2025
Llunio'r rhestr fer: Wythnos yn dechrau 10 Mawrth 2025
Arsylwadau gwersi: Wythnos yn dechrau 17 Mawrth 2025
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 24 Mawrth 2025
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.