MANYLION
  • Lleoliad: Rhyl,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £15.31 - £15.65 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau)
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd Gweithdu - Peirianneg / Cerbydau Modur, Tymor yn Unig

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £15.31 - £15.65 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau)

Byddwch wedi eich lleoli ar gampws y Rhyl ac yn cynorthwyo timau cyflwyno Peirianneg (Cerbydau Modur, Perianneg, Trwsio a Phaentio Cyrff Cerbydau) o dan arweiniad a chyfarwydd cyffredinol y darlithwyr a'r Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol. Eich prif rôl fydd bod yn gyfrifol am hwyluso'r gwaith o gyflwyno sesiynau ymarferol i grwpiau o ddysgwyr yn y gweithdy. Golyga hyn baratoi ar gyfer y sesiynau ymlaen llaw, gan sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ac offer angenrheidiol yn barod. Byddwch hefyd yn cynorthwyo'r hyfforddwyr a'r myfyrwyr yn ôl yr angen yn ystod y sesiynau. Bydd eich cyfraniadau'n hanfodol i greu amgylchedd dysgu effeithiol a diddorol i'r dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/129/25

Cyflog
£15.31 - £15.65 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau)

Lleoliad Gwaith
  • Y Rhyl

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.

Patrwm gweithio
Hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos, 38 wythnos y flwyddyn - yn ystod tymor y Coleg

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
26 Chwef 2025
12:00 YH(Ganol dydd)