MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: L21 £82,868 - L27 £95,034
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth - Ysgol Gymunedol Doc Penfro

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: L21 £82,868 - L27 £95,034

Nifer ar y gofrestr: 600+

Yn ofynnol ar gyfer mis Medi 2025

Pennaeth ysgol L21-27 (yn cynnwys arwain darpariaethau AGC)

Mae Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn falch o fod yn ysgol gymunedol, yn ymdrechu i sicrhau llwyddiant i bawb. Yn ogystal â 22 o ddosbarthiadau o'n meithrinfa amser llawn i Flwyddyn 6, mae gennym hefyd ddarpariaethau awdurdod lleol ar gyfer disgyblion ag anghenion cymhleth a dosbarth Dechrau'n Deg mawr. Mae gan ein hysgol lwyddiannus, uchel ei pharch, broffil cenedlaethol uchel fel sefydliad dysgu dynamig a blaengar. Mae'r ysgol wedi sefydlu partneriaethau i ddatblygu dulliau dysgu, addysgu, arwain a chynnal llesiant, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r ysgol yn parhau i fod yn arloeswr ym maes diwygio'r cwricwlwm ac addysg, gan gynnwys ailgynllunio ac arweinyddiaeth barhaus addysg gychwynnol athrawon gyda'r Athrofa, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn gymuned hapus, ffyniannus gyda disgyblion hyfryd a thîm o staff sefydledig, ymroddedig a medrus iawn. Rydym yn falch o weithio'n ddiflino i hyrwyddo hawliau plant a'u llesiant a gwasanaethu ein cymuned. Mae gennym fel ysgol statws aur hirsefydlog ar restr UNICEF o ysgolion sy'n parchu hawliau, ac rydym yn ysgol noddfa. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i sicrhau tegwch a hyrwyddo empathi ac urddas i bob unigolyn.

Mae datblygu arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy ddiwylliant o ymholi wrth wraidd gwaith yr ysgol. Mae diwylliant sefydledig o ddysgu gweladwy lle mae athrawon yn gweithio'n effeithiol ar y cyd i sicrhau bod dysgwyr yn dod yn fwyfwy effeithiol, gan gyflymu cynnydd i bawb.

Mae'r corff llywodraethu am benodi arweinydd profiadol a llawn cymhelliant, sydd â chefndir amlwg o wasanaethu ardal sy'n wynebu heriau sylweddol. Mae'r penodiad hwn yn cynnig cyfle cyffrous i ddatblygu ymhellach yr hyn sydd eisoes yn ysgol hynod lwyddiannus.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • Yn ysbrydoli ac yn ysgogi, gan gynnig gweledigaeth ac arweinyddiaeth ragorol
  • Yn frwd dros gyflawni'r safonau uchaf gyda staff, disgyblion a'r gymuned
  • Yn ymrwymedig i ethos cynhwysol, gan sicrhau mynediad cyfartal i ragoriaeth i bawb
  • Yn gweithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach
  • Yn arwain rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu
  • Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol, brwdfrydedd ac egni i helpu i arwain ein staff ymroddedig

Gallwn gynnig y canlynol i chi:

  • Plant hyfryd sy'n ddysgwyr amlwg
  • Staff brwdfrydig, gweithgar a chefnogol sy'n ymroi i gael y gorau i bob unigolyn
  • Llywodraethwyr a rhieni cefnogol, a chysylltiadau cryf â'r gymuned
  • Partneriaethau niferus, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

Gwyliwch y fideo hwn y mae disgyblion wedi'i baratoi ar gyfer darpar ymgeiswyr: Cyngor yr ysgol

Am fwy o wybodaeth am ein hysgol, gan gynnwys ein prosbectws, ewch i'n gwefan: www.pembrokedockcommunityschool.com

Rydym yn croesawu ymweliadau â'r ysgol. Cysylltwch â'r ysgol drwy ffonio 01646 684872, neu anfonwch neges e-bost i admin.pdcs@pembrokeshire.gov.uk i drefnu ymweliad pan fo'n gyfleus.

Gwnewch gais trwy wefan Cyngor Sir Penfro, gan gyfyngu datganiadau personol i uchafswm o 2,500 o eiriau.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 17 Mawrth 2025

Dyddiad llunio'r rhestr fer: Dydd Mercher 19 Mawrth 2025.

Dyddiadau y cyfweliadau: Dydd Mercher 2 Ebrill a 3 Ebrill 2025.

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.