MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,550 - £26,189
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,550 - £26,189
Disgrifiad SwyddColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arweinwyr Heini Cadarnhaol
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy (Teithio i safleoedd eraill)
Math o Gontract: Cyfnod penodol 12 mis
Cyflog: £25,550 - £26,189
Ar hyn o bryd mae gennym ni swyddi gwag ar gyfer swydd newydd gyffrous fel Hyfforddwr PAL yn ein safle yng Nglannau Dyfrdwy ac yn gweithio ar draws ein holl safleoedd a'n cymuned leol.
Mae'r swydd newydd hon yn cael ei hariannu gan Actif Gogledd Cymru i gynyddu cyfranogiad merched mewn gweithgarwch corfforol a chael gwell dealltwriaeth o'r rhwystrau i ferched fod yn heini yn y cymunedau lleol. Mae'r swydd hon yn rhan annatod o'n tîm Profiad Dysgwyr ac fel Hyfforddwr Arweinydd Heini Cadarnhaol (PAL), rhan enfawr o'ch swydd fydd datblygu a darparu gweithgareddau i gynyddu cyfranogiad merched mewn gweithgarwch corfforol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Byddwch chi'n gweithio ar draws holl safleoedd y coleg gan ganolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd i ferched fel Dug Caeredin, Gwersylloedd Gwyliau a gweithgareddau ffitrwydd. Ochr yn ochr â hyn, byddwch chi'n cefnogi twf y llysgenhadon ifanc, arweinwyr dibynadwy a'r rhaglen PAL sy'n cynnig profiad gwirfoddoli ac addysg wrth weithio i gynyddu gweithlu'r dyfodol o ddarparwyr gweithgarwch corfforol yng Ngogledd Cymru.
Gofynion Hanfodol
- Profiad o ddarparu chwaraeon, dosbarthiadau ffitrwydd a gweithgareddau llesiant.
- Bod wedi cyflwyno menter gweithgarwch corfforol o fewn ysgol neu gymuned leol.
- Gweithio gyda chorff llywodraethu cenedlaethol neu/ac awdurdod lleol.
- Dealltwriaeth a gwybodaeth o faterion diogelu.
- Lefel uchel o sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol.
- Cymhwyster Llythrennedd Digidol Lefel 2 neu'n fodlon gweithio tuag at hynny
- Addysg at Lefel 2 o leiaf mewn Saesneg a Mathemateg.
- Lefel uchel o flaengaredd a'r gallu i addasu.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch chi'n gwneud cais amdani ac os ydych chi'n llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig