MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: L8 £60,203 - L14 £69,787\n
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth – Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Marc

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: L8 £60,203 - L14 £69,787\n

Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Marc

PENNAETH - I ddechrau 1 Medi 2025

ISR L8 - L14

Math o gontract: Llawn Amser

Cytundeb: Parhaol

Yn dilyn penodi'r pennaeth presennol i swydd amser llawn yn y Weinidogaeth Gristnogol, mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Marc yn ceisio penodi Pennaeth rhagorol i arwain ein teulu ysgol llwyddiannus, hapus a chynhwysol. Mae'r rôl yn cynnwys ymrwymiad addysgu o 50%.

Gobeithiwn recriwtio Cristion ymroddedig a fydd yn ymgorffori datganiad cenhadaeth ein hysgol:

Rydym yn gymuned ofalgar lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu. Wedi'n hamgylchynu gan gariad Duw bob dydd, rydym yn dysgu, yn chwarae, yn gweddïo ac yn tyfu gyda'n gilydd fel ein bod ni'n dod y gorau y gallwn fod.

Bydd yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y nodweddion canlynol:

  • Ymrwymedig i gynnal ein hethos Cristnogol, safonau uchel a gwelliant parhaus
  • Unigolyn hynod dosturiol sy'n gallu dangos sgiliau bugeiliol, rhyngbersonol a chyfathrebu cryf
  • Arweinydd brwdfrydig, ysbrydoledig, arloesol sy'n meddu ar sgiliau pedagogaidd a rheoli profedig, ac sy'n arwain trwy esiampl yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt
  • Angerddol dros feithrin y partneriaethau rhwng disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a grwpiau rhanddeiliaid ar draws y gymuned ehangach.
  • Gallu datblygu a gweithredu gweledigaeth glir ar gyfer datblygiad parhaus ein hysgol yn wrth i ni wireddu potensial y Cwricwlwm i Gymru.

Mae ein hysgol yn gwasanaethu ardal Pont Fadlen yn Hwlffordd, sydd ag ymdeimlad cryf iawn o gymuned. Rydym yn gwerthfawrogi partneriaethau agos sy'n cyfoethogi profiadau dysgu'r disgyblion er mwyn ehangu dyheadau a rhyddhau llawn botensial ein plant. Rydym yn flaengar, yn gydweithredol ac yn greadigol wrth ddatblygu ein cwricwlwm i gyflawni'r nod hwn. Mae tîm o staff brwdfrydig, talentog ac ymroddedig yn cael eu cefnogi gan ein corff llywodraethu rhagorol ac ymrwymedig. Ym mhopeth a wnawn, ymdrechwn i sicrhau bod pob disgybl yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac yn datblygu drwy'r pedwar diben.

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth [CPCP], oni bai eu bod wedi'u penodi'n Bennaeth cyn 2005.

Mae penodi unigolyn i'r swydd hon yn amodol ar gais am ddatgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gwahoddir ymgeiswyr sydd â diddordeb i gysylltu â'r ysgol i drefnu ymweliad cyn 21 Mawrth 2025 drwy e-bostio admin.stmarks@pembrokeshire.gov.uk

Dyddiad cau: Dydd Llun 17 Mawrth 2025

Llunio rhestr fer: Dydd Mercher 19 Mawrth 2025

Diwrnod Cyfweld 1: Dydd Mawrth 1 Ebrill 2025

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.