MANYLION
- Lleoliad: Tonypandy,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £36,669.00- £39,096.00
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £36,669.00- £39,096.00
Technolegydd Dysgu a Gyfoethogir gan DechnolegSwydd ddisgrifiad
Am y rôl:
Mae rôl y Technolegydd Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg (TEL) yn canolbwyntio ar greu adnoddau digidol, efelychiadau a phrofiadau trochi, datblygu datrysiadau digidol arloesol, a gwella sgiliau digidol staff a dysgwyr o fewn Canolfannau Ymgysylltu TEL, ac ar draws y coleg. Ymhlith y cyfrifoldebau mae darparu hyfforddiant ar dechnolegau digidol arloesol, darparu profiadau dysgu a gweithdai trochi, a hybu gallu digidol a hyder ymhlith staff a dysgwyr. Mae'r Technolegydd TEL yn gweithio fel rhan o dîm deinamig, gan ddefnyddio datrys problemau crea.
Gwybodaeth Bellach:
Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.
Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk