MANYLION
- Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu
Oriau achlysurol - lleiafswm o 18 awr yr wythnos
Graddfa Gyflog 1: £24,425 pro rata y flwyddyn - cyfwerth â £12.66 yr awr
Sylwch, mae lleiafswm o 18 awr yr wythnos ar gael hyd at 27ain Mehefin 2025. Mae hwn yn gontract a delir fesul awr sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe'u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.
Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Cymorth Dysgu i ymuno a'n tîm ADY brwdfrydig ar gampws Penybont a Phencoed.
Byddwch yn cefnogi dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol, yn y dosbarth ac mewn ardaloedd dysgu eraill, yn cynorthwyo gyda'u gofynion lles corfforol ac emosiynol a chymorth dysgu.
Gall hyn cynnwys darparu cymorth ymarferol, gofal personol, cymryd nodiadau, darllen, annog / ysgrifennu a / neu roi cefnogaeth i gymryd nodiadau. Gydag isafswm TGAU gradd C mewn Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg a chymhwyster Lefel 2 perthnasol, bydd gennych brofiad o weithio gyda phobl gydag anghenion dysgu ychwanegol/anableddau corfforol a all fod angen cefnogaeth a chymorth i gyflawni eu potensial llawn.
Bydd gennych sgiliau TG, cyfathrebu a chymryd nodiadau da a bod yn barod i weithio'n hyblyg. Mae cofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (CGA) yn ofyniad ar gyfer y rolau hyn ac mae angen iddo fod yn ei le cyn y gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.