MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944\n
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth y Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Llesiant - Ysgol Penrhyn Dewi

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944\n

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru 3-16 oed yw Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi ac mae'n gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi a'r cyffiniau. Wedi'i lleoli yn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'r ethos Cristnogol a chymunedol.

Mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf â'r gymuned leol lle mae cyfleoedd helaeth ar gyfer chwaraeon, gweithgareddau yn yr awyr agored a gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Mae gan yr ysgol draddodiad ac enw rhagorol am gyfranogiad a chyflawniad cynhwysol yng ngweithgareddau'r cwricwlwm a gweithgareddau allgyrsiol, ac mae eu deilliannau ymhlith y gorau yn y sir a thu hwnt.

Mae'r ysgol am benodi ymarferydd blaengar ac arloesol sy'n frwd dros y pwnc ac a chanddo gefndir amlwg o arweinyddiaeth. Mae'n swydd amser llawn, a bydd angen i'r ymarferydd gychwyn ym mis Medi 2025. Mae'r gallu i addysgu Addysg Gorfforol i bob blwyddyn ysgol, gan gynnwys ar lefel TGAU yn hanfodol. Byddai'r gallu i addysgu ail bwnc yn fantais. Croesewir ac anogir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd wedi'u hyfforddi.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau hollbwysig i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Ein nod yw cynorthwyo plant a phobl ifanc agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch pob plentyn a byddant yn cymryd camau gweithredu i ddiogelu llesiant plant, gan gydnabod bod ganddynt yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol pob ysgol.

Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno cais ar-lein. Os na allwch wneud hyn, cysylltwch â'r Gweinyddwr Recriwtio cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau llenwi ffurflen gais.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.