MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,620 Codiad cyflog i ddod - £47,331 Codiad cyflog i ddod
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd mewn Coedwigaeth, Cefn Gwlad a Chadwraeth CC/2802

Coleg Cambria

Cyflog: £30,620 Codiad cyflog i ddod - £47,331 Codiad cyflog i ddod

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Coedwigaeth a Chadwraeth

Lleoliad: Llysfasi

Math o Gontract: Llawn Amser, Parhaol

Cyflog: M1 £32,304 - UP3 £49,934 (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Raddfa Dâl Uwch)

Mae gennym swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer Darlithydd Coedwigaeth a Chadwraeth ar safle Llysfasi Coleg Cambria. Yn y swydd ddeinamig hon, cewch gyfle i ysbrydoli ein dysgwyr lefel 1 i 3 mewn pynciau coedwigaeth, coedyddiaeth a Chadwraeth. Trwy ddarlithoedd diddorol, byddwch chi'n edrych ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys ecoleg coedwigoedd, coedyddiaeth, gofal coed, coedamaeth, rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, ac egwyddorion cadwraeth a rheoli ystadau.

Byddwch chi'n cydweithio gyda chydweithwyr, ac yn cyfrannu at ddatblygu ac ehangu'r cwricwlwm, sicrhau ei fod yn cyd-fynd gyda safonau'r diwydiant ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn coedwigaeth, coedyddiaeth a chadwraeth. Byddwch yn integreiddio technolegau sy'n dod i'r amlwg ac arloesi methodolegau addysgu, gan ddarparu addysg gynhwysfawr a diweddar i fyfyrwyr.

Byddwch chi'n creu amgylchedd dysgu trochol, ac yn ennyn diddordeb myfyrwyr mewn gwaith maes, ymarferion ymarferol, a phrosiectau cadwraeth, magu gwerthfawrogiad dwfn am natur, cadwraeth bywyd gwyllt, ac arferion cynaliadwy rheoli tir. Byddwch chi'n arwain myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n berthnasol i'w disgyblaethau perthnasol, fel adnabod coed, asesu cynefinoedd, a thechnegau rheoli bywyd gwyllt.

Os oes gennych chi angerdd dwfn am goedwigaeth a chadwraeth, ynghyd ag awydd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn y meysydd hyn, rydyn ni'n eich gwahodd i wneud cais am swydd Darlithydd Coedwigaeth, Cefn Gwlad a Chadwraeth ar safle Llysfasi Coleg Cambria. Ymunwch â ni yn ein cenhadaeth i addysgu a grymuso myfyrwyr i gael effaith gadarnhaol ar goedwigoedd, cefn gwlad, a'r amgylchedd. Gwnewch gais rŵan a dechreuwch eich taith gwerth chweil gyda ni!

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407) neu'n gweithio tuag at hynny

Addysg at gymhwyster Lefel 5 o leiaf

Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch chi'n sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn

Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i ddiwallu'r anghenion hyn mewn amgylchedd dysgu

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai