MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: L25 £91,401 - L31 £104,812
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pay Scale Within: L25 £91,401 - L31 £104,812
PENNAETHLlawn Amser/Parhaol
Tâl: Graddfa Arweinyddiaeth 25-31
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Bro Gwaun am benodi Pennaeth newydd ar gyfer Medi 2025. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y welegigaeth a'r gallu i arwain, ysbrydoli a chymell holl gymuned yr ysgol.
Gwahoddir ceisiadau gan arweinwyr profiadol, egnїol ac ysbrydoledig i adeiladu ar ein seiliau cadarn, ac i arwain yr ysgol yn gadarn i gyfnod nesaf ei datblygiad.
Mae tua 600 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae disgyblion yn cael eu ffrydio'n ieithyddol, gyda dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg ac ail iaith ym Mlynyddoedd 7-11. Mae gan 14.7% o ddisgyblion yr ysgol hawl i brydau bwyd am ddim.
Yn Ysgol Bro Gwaun, credwn fod gan pob plentyn y ddawn i gyflawni pethau mawr. Drwy weithio gyda'n gilydd fel cymuned gefnogol rydym yn sicrhau bod disgyblion yn cyrraedd eu llawn potensial. Rydym yn ysgol gynhwysol ac yn groesawgar, lle caiff myfyrwyr o bob cefndir a gallu eu gwerthfawrogi a'u parchu. Er ein bod yn falch o gyflawniad ein disgyblion yn academaidd ac o fewn llawer o agweddau eraill o fywyd yr ysgol, rydym yn ymrwymedig i welliant parhaus. Nid yw darpariaeth eilradd yn ddigonol i'n disgyblion, ac yn yr un modd, rydym yn disgwyl y gorau ganddynt. Rydym yn addysgu ein disgyblion fel nad yn anfantais yn rhwystr i lwyddiant, a bod addysg yn sail i wneud dewisiadau a llwybrau mewn bywyd.
Ein datganiad o fwriad yn 'Ein gorau bob amser; i'n hysgol, i eraill, i'n hunain', ac rydym yn falch o fod yn gymuned dysgu ddwyieithog llawn. Mae disgyblion Ysgol Bro Gwaun yn mwynhau eu bywyd ysgol, ac yn falch iawn o'u hysgol. Gwneir pob penderfyniad er budd y myfyrwyr.
Rydym yn darparu amgylchedd cefnogol a gofalgar, yn cynnal safonau disgyblaeth, gwisg, cwrteisi a moesau da, lle gall pob myfyriwr ddatblygu hunan-ddibyniaeth ac hunan-ddisgyblaeth. Rydym yn annog ein disgyblion i ddatblygu i fod yn ddysgwyr hyderus, gofalgar a gyol-oes.
Mae'r ysgol yn croesawu ymweliadau gan ddarpar ymgeiswyr, ac fe'ch anogir i gysylltu â Mrs Michaela Walters, Rheolwr Busnes yr Ysgol, naill ai drwy e-bost neu ffôn, i drefnu ymweliad cyn cyflwyno'ch cais michaela.walters@ysgolbrogwaun.com 01348 872268 neu 01348 871105
Dyddiad cau: 10 Mawrth 2025
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.