MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Gradd 7 (£30,060 x 77.15%)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mawrth, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Anogwr Dysgu (Lefel 4) YGG Awel Taf

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Gradd 7 (£30,060 x 77.15%)

Anogwr Dysgu (Lefel 4) YGG Awel Taf

Disgrifiad Swydd
Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf

Holly Street, Rhydyfelin, Pontypridd

CF37 5DB

01443 490750

Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 346

Anogwr Dysgu (Lefel 4)

Nifer yr oriau fesul wythnos: 32.5 (Tymor yr ysgol yn unig)

Cyflog: Gradd 7 (£30,060 x 77.15%)

Dyddiad dechrau: 28ain o Ebrill 2025

Ydych chi’n barod am yr her nesaf? Dewch i weithio gyda ni yn Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf.

Mae’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethol am benodi unigolyn hyblyg a dyfeisgar sy’n rhannu’r un angerdd am ddysgu â thîm yr ysgol ac sy’n ymdrechu i geisio rhagoriaeth ym mhob dydd.

Rydym yn chwilio am:
  • Unigolyn, sydd ag ethos Cymreig cryf ac angerdd i ddiogelu dyfodol y Gymraeg yn ardal Pontypridd a’r ardal ehangach, i gwrdd â'r weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
  • Unigolyn sydd yn mwynhau gweithio gyda phlant o bob oedran; dosbarth cyfan, grwpiau bach neu un i un. Person sydd yn dal i wenu beth bynnag sy'n digwydd, yn greadigol, yn ddigynnwrf ac yn wir yn credu bod pob plentyn bob amser yn bwysig
Gallwn gynnig y canlynol i chi:

  • Plant brwdfrydig, chwilfrydig, a chroesawgar
  • Mynediad i ystafelloedd dosbarth modern, llawn offer ac adnoddau sy'n cefnogi eich dulliau addysgu ac yn cyfoethogi'r profiad dysgu.
  • staff gweithgar, ymroddedig a medrus
  • rhieni a chorff llywodraethol cefnogol
  • ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i fynychu cyfweliad ar y 5ed o Fawrth 2025 .

Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Mrs Jones, Pennaeth, ar 01443 490750 nodwch rif ffôn.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Canol Nos ar 14eg o Chwefror 2025.

Dyddiad Cau: 14eg O Chwefror 2025

Tynnu Rhestr Fer: 20ain O Chwefror 2025

Cyfweliad: 5ed O Fawrth 2025

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.