MANYLION
  • Lleoliad: Glynllifon,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £7,877.97 - £8,574.01 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hwylusydd Sgiliau Astudio, Tymor yn Unig

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £7,877.97 - £8,574.01 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Gweithio fel aelod o'r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr sgiliau astudio i ddysgwyr. Yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn, darperir y gwasanaeth drwy weithio gyda grwpiau neu unigolion. Ymgymryd â chefnogaeth mewn sesiynau galw heibio yn y Ganolfan Ddysgu a / neu i ddysgwyr mewn sesiynau a drefnwyd.

Mae cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhan hanfodol o'r swydd, yn ogystal â'r gallu i gydweithio gyda staff dysgu, mentoriaid, Gyrfa Cymru ac asiantaethau allanol.

Mae'n bosibl y bydd gofyn gweithio'n achlysurol gyda'r nos ac ar ddyddiau Sadwrn, ac am hynny rhoddir amser i ffwrdd yn ystod yr wythnos.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/124/25

Cyflog
£7,877.97 - £8,574.01 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Glynllifon

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.

Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.

Patrwm gweithio
13 awr yr wythnos / 38 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y Coleg)

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
21 Chwef 2025
12:00 YH(Ganol dydd)