MANYLION
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £8,818.99- £9,012.38 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd - Salon Trin Gwallt a Harddwch, Tymor yn Unig

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £8,818.99- £9,012.38 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Mae adran Trin Gwallt a Harddwch Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau yn darparu hyfforddiant o'r safon uchel yn yr ardal. 'Rydym am benodi technegydd fydd yn gweithio yn agos gyda staff dysgu ac yn sicrhau bod y salon hyfforddiant proffesiynol yn addas i gynnig addysg o'r safon uchaf i'r dysgwyr ac i sicrhau bod cyfarpar addas ar gael i'r staff dysgu.

Dyma gyfle cyffrous i unrhyw un sydd â chefndir trin gwallt a harddwch i gefnogi gweithwyr y dyfodol. Mi fydd y person llwyddiannus yn gweithio yn agos gyda staff dysgu er mwyn sicrhau fod holl cynhyrch sydd angen yn y salon ar gael. Mi fydd y person llwyddiannus yn gweithio ac archebu cynhyrch o gwmniau fel Dermalogica , Wella a L'Oréal.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/125/25

Cyflog
£8,818.99- £9,012.38 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.

Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.

Patrwm gweithio
16 awr yr wythnos, 36 wythnos y flwyddyn

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
20 Chwef 2025
12:00 YH(Ganol dydd)