MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
Darlithydd mewn Gosod TrydanolApplication Deadline: 14 February 2025
Department: Adeiladu
Employment Type: Parhaol - Llawn Amser
Location: Campws Rhydaman
Reporting To: Pennaeth Adeiladu
Compensation: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn dangos menter a brwdfrydedd, ac a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da'r Coleg trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o dîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Yn benodol, staff sydd yn gallu datblygu ein cenhadaeth ymhellach: Ysbrydoli dysgwyr, Cyflawni potensial ac Ennill rhagoriaeth. Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol a dyfeisgar.
Mae gan Goleg Sir Gâr gyfle cyffrous ar gyfer Darlithydd mewn Gosod Trydanol wedi'i leoli ar ein Campws yn Rhydaman. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio 14.8 awr yr wythnos ar sail barhaol fel rhan o'r gyfadran adeiladu ac amaethyddiaeth. Fel darlithydd gosod trydanol, cewch y cyfle i gyflwyno addysgu a dysgu o ansawdd uchel ar gwrs Gosodi Trydanol (lefelau 1-3).
Lleolir y ddarpariaeth adeiladu ar Gampws Rhydaman ac mae'n cynnwys crefftau adeiladu, gwasanaethau adeiladau, ysgolion, adeiladu technegol ac addysg uwch. Mae rhan o'r ddarpariaeth ysgolion hefyd yn cael ei chyflwyno oddi ar y safle yn ysgol Bryngwyn. Mae gan dîm y Maes Cwricwlwm dros ddeg ar hugain o aelodau llawn amser a rhan-amser sy'n cynnwys staff addysgu, asesu a chefnogi. Mae gan y Maes Cwricwlwm hefyd gysylltiadau helaeth â'r diwydiant, ac mae wedi ennill sawl gwobr genedlaethol am bartneriaethau cydweithredol.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ymgymryd â'r gwaith o addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio sy'n arwain at gymwysterau mewn Gosod Trydanol o Lefel 1 i Lefel 3; Bydd angen i chi allu cyflwyno mewn amgylcheddau ystafell ddosbarth a gweithdy hefyd ac arddangos systemau gweithio diogel wrth gyflwyno sesiynau ymarferol;
- Cyfrannu at reoli'r meysydd pwnc hyn;
- Darparu cymorth, fel aelod o'r tîm, o ran gweinyddu a datblygu adnoddau o fewn yr Adran yn Rhydaman a chynorthwyo gyda datblygu deunyddiau addysgu a dysgu;
- Cynorthwyo gyda datblygu cyrsiau masnachol o fewn yr adran trwy gysylltu â diwydiant er mwyn cadarnhau anghenion hyfforddiant;
- Cyfrannu at ansawdd y ddarpariaeth trwy'r system dilysu mewnol;
- Paratoi deunyddiau addysgu a dysgu perthnasol ar gyfer pynciau penodedig;
- Paratoi deunyddiau adnodd a chyfleusterau i ategu'r gwaith addysgu penodedig;
- Cyfrannu at ofynion swyddogaethol tîm y cwrsYmgymryd â'r holl weithgarwch asesu ar gyfer pynciau penodedig;
- Sicrhau bod yr holl ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau hyfforddiant ymarferol yn cydymffurfio ag iechyd a diogelwch a gofynion deddfwriaethol eraill;
- Cysylltu â budd-ddeiliaid trydydd parti fel y'i nodwyd gan reolwyr y gyfadran, gan gynnwys cynghorau sgiliau sector, sefydliadau AU, cyrff diwydiannol, cyflogwyr ac ati;
- Ymgymryd â rôl y tiwtor personol ar gyfer grwpiau o ddysgwyr;
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Cymhwyster addysgu
- Cymhwyster Diploma NVQ L3 yn ymwneud â Gosod Trydanol neu gyfwert
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Trwydded yrru gyfredol
- Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg
- Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein