MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Grŵp Ysgol 3 - ISR L18 (£77,000) – L24* (£88,303.00)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth Gweithredol – Ffederasiwn Garw
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Grŵp Ysgol 3 - ISR L18 (£77,000) – L24* (£88,303.00)
Pennaeth Gweithredol - Ffederasiwn GarwDisgrifiad swydd
(Ysgolion Cynradd Betws, Blaengarw a Ffaldau)
32.5 awr yr wythnos
Mae Corff Llywodraethu Ffederasiwn Garw (Ysgolion Cynradd Betws, Blaengarw a Ffaldau) am benodi pennaeth gweithredol llawn gweledigaeth er mwyn parhau i ysbrydoli'r staff a'r plant i weithio i'w potensial mwyaf.
Mae'r rôl yn gofyn am lefelau uchel o feddwl strategol, pwyslais mawr ar hyfforddi, dirprwyo a chyflawni newid drwy eraill er mwyn gwella ein ffederasiwn. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn arweinydd cryf, gyda'r gallu i ddatblygu a chynorthwyo'r cyfeiriad strategol hwn, gweledigaeth a gwerthoedd a blaenoriaethau'r ysgolion ffederal.
Bydd y swydd hon yn un sy'n canolbwyntio ar strategaeth y tair ysgol er mwyn hwyluso datblygiad gorau posibl y ffederasiwn. Bydd y pennaeth gweithredol yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth strategol gyda'r corff llywodraethu, y gymuned leol a'r holl randdeiliaid i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn. Pob pennaeth ysgol unigol fydd yn gyfrifol am redeg yr ysgolion o ddydd i ddydd yn unol â'r dulliau strategol a amlinellir a'u goruchwylio gan y pennaeth gweithredol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bennaeth profiadol gyda sgiliau arwain, trefniadol a rhyngbersonol amlwg. Bydd yn meddu ar weledigaeth glir i barhau'r ymgyrch am safonau uchel a chydweithio ar draws yr ysgolion.
Mae ysgolion cynradd Betws, Blaengarw a Ffaldau wedi'u lleoli yng Nghwm Garw, gyda 485 o ddisgyblion ar y gofrestr ar draws y 3 ysgol.
Gwahoddir ceisiadau gan benaethiaid profiadol sy'n meddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 19 Chwefror 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 06 Mawrth 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 19 & 20 Mawrth 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person