MANYLION
  • Lleoliad: Nantyffyllon Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: ISR 9-13 £61,705 - £68,090 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Nantyffyllon

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: ISR 9-13 £61,705 - £68,090 y flwyddyn

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Nantyffyllon
Disgrifiad swydd
Mae Llywodraethwyr yr ysgol gynradd 3 – 11 oed lwyddiannus hon yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth newydd. Os ydych yn athro/athrawes uchelgeisiol, brwdfrydig, ac arloesol gyda sgiliau arwain, rheoli a rhyngbersonol gwych, byddem yn croesawu eich cais i gynorthwyo'r Pennaeth wrth arwain tîm o staff addysgu a chymorth ymroddedig.

Yn yr ysgol rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn gymuned hapus, groesawgar a gweithgar o staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sy'n frwdfrydig am brofiad addysgol o ansawdd.

Bydd yr ymgeiswyr a ddewisir am gyfweliad yn cael cyfle i weld yr ysgol ar ddiwrnod cyntaf y cyfweliadau.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 19 Chwefror 2025

Dyddiad llunio rhestr fer: 20 Chwefror 2025

Arsylwadau Dosbarth ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer: W/C 03 Ebrill 2025

Dyddiad Cyfweld: 6 a 7 Mawrth 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person