MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, Bridgend, CF31 3DF
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Darlithydd Colur / Harddwch Theatraidd a delir yn ôl yr awr

Coleg Penybont
Fel darlithydd a delir yn ôl yr awr, byddwch yn cynllunio, yn datblygu, yn gwerthuso ac yn cyflwyno cynnwys cwricwlaidd rhaglenni dysgu yn effeithiol ac yn effeithlon o fewn darpariaeth cwricwlwm Harddwch. 

Os teimlwch y gallech gyfrannu at yr addysgu a'r dysgu o fewn y maes hwn, rydym am glywed wrthoch! Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y pecyn gwybodaeth swydd isod: 

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
JOB REQUIREMENTS
Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad proffesiynol ac addysgu diweddar, ynghŷd ȃ phrofiad o weithio gyda phrostheteg, capiau moel a chelf wyneb a chorff. Bydd gwybodaeth ehangach o sgiliau ar gyfer addysgu Therapi Harddwch ar Lefel 2 a 3 hefyd yn fanteisiol. Bydd gennych gymhwyster Lefel 3 neu gyfwerth mewn Harddwch neu Golur Theatraidd ynghŷd ȃ dyfarniad aseswr cydnabyddedig a chymhwyster addysgu (neu yn barod i gyflawni hyn). Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, byddwch yn gallu ysgogi dysgwyr o bob oed a chefndir.