MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,677 - £36,196
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol CC/2785

Coleg Cambria

Cyflog: £33,677 - £36,196

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.

Teitl y Swydd: Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol

Lleoliad: Llaneurgain

Math o Gontract: Cyfnod Penodol (Tan Ionawr 2026) Llawn Amser

Graddfa Gyflog: £33,677 - £36,196

Trosolwg o'r Swydd

Gan adrodd i'r Rheolwr Cymorth Dysgu, eich prif ddyletswyddau fydd rheoli tîm o Gymhorthwyr Dysgu, Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu a Gweithwyr Cymorth Gofal ac Annibyniaeth. Cynnal presenoldeb, cefnogi cyflawniad a chynnydd myfyrwyr, gan sicrhau hefyd bod cymorth dysgu o'r safon uchaf ac yn diwallu anghenion yr holl fyfyrwyr a'r Cod ADY.

Bydd hefyd yn ofynnol i chi reoli'r ddarpariaeth o gymorth yn y dosbarth i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a'r rhai sydd angen cymorth gydag anableddau corfforol, nam ar y synhwyrau, iechyd meddwl neu gyflyrau meddygol i gael mynediad at gyrsiau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli, cynnal ac adolygu cynlluniau datblygu unigol, gan fod yn gyfrifol am drosglwyddo dysgwyr ag ADY, i'r coleg ac wrth symud ymlaen i gyflogaeth a/neu gynhwysiant cymunedol. Bydd yn ofynnol i chi gynnal ac adolygu Cynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal (Lloegr) ac o 2019, Cynlluniau Datblygu Unigol (Cymru), bod yn gyfrifol am y system adolygu a chadw at ddisgwyliadau Awdurdodau Lleol. Byddwch hefyd yn bwynt cyswllt ar gyfer staff, myfyrwyr a rhieni.

Gofynion Hanfodol
  • Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, mae'n rhaid i chi gael TGAU mewn Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch (neu gyfwerth)
  • Rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad blaenorol sylweddol o weithio gyda phobl ag anghenion ychwanegol, ac mae darparu cymorth mewn ystafell ddosbarth neu leoliad tebyg yn hanfodol.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig