MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £26,607 - £29,769
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

SIMS, Swyddog ac Arholiadau - Ysgol Glan Y Mor

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £26,607 - £29,769

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 1275

Sefydliad: Ysgolion

Adran: Ysgol Glan-y-Môr

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Dros Dro/Secondiad - Yn Ystod y Tymor yn Unig

Dyddiad gorffen y contract: 31 Rhagfyr 2025

Lleoliad: Llanelli

Gradd: Gradd E +4%

Cyflog: £26,607 - £29,769

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr: £13.79 - £15.43

Oriau Contract: 37

Dewch i ymuno â'n tîm
Yn ofynnol cyn gynted â phosibl am reolwr data ac arholiadau rhagorol amser llawn, wedi'i leoli yn Ysgol Glan-y-Môr, i gefnogi a rheoli systemau data a chyfresi arholiadau'r ysgol ar gyfer y flwyddyn galendr hon, tan fis Mawrth 2026 i ddechrau.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gymryd rhan allweddol yn ein hysgol. Gan adrodd i aelod o'r tîm arwain, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am fewnbynnu/echdynnu, cyfrifo, dadansoddi ac asesu data disgyblion ar SIMS a phecynnau eraill yn effeithlon.Byddant hefyd yn gyfrifol am weinyddiad effeithiol yr holl arholiadau mewnol a phrofion statudol ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 a 4 yn unol â rheoliadau'r cyrff dyfarnu.

Mae'r rôl allweddol hon yn cefnogi'r ysgol i ymdrechu i godi safonau addysgu a dysgu. Mae'r swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am drefnu a gweinyddu pob agwedd ar brosesau arholiadau allanol a mewnol yr ysgol a bydd angen agwedd hyblyg at oriau gwaith ar adegau, wrth i'r llwyth gwaith newid ar draws y flwyddyn academaidd.

Mae hon yn rôl bwysig a heriol sy'n cynnwys rhyngweithio agos â disgyblion, staff addysgu, yr Uwch Dîm Arwain a rheoli tîm o oruchwylwyr. Rhaid i chi feddu ar safon uchel o sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu, yn ogystal â dealltwriaeth ragorol o systemau TG. Byddai bod yn gyfarwydd â SIMS o fantais. Gall y rôl gynnig y cyfle ar gyfer rhywfaint o weithio hybrid/o bell, trwy gynllunio a negodi rhesymol, pan fydd tasgau'n briodol.

Mae Ysgol Glan-y-Môr ac Ysgol Bryngwyn yn rhan o ffederasiwn sy'n ymdrechu i ddatblygu safonau a chyfleoedd rhagorol i'w holl ddisgyblion. Yn y cyd-destun hwn, byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar y cyd ac yn agos gyda chydweithwyr ar draws y ffederasiwn a gallai fod wedi'i leoli yn y naill ysgol neu'r llall. Disgwylir y bydd deiliad y swydd yn gweithio pythefnos o wyliau'r haf, i gyd-fynd â rhyddhau canlyniadau arholiadau allanol.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar gais gan Diane Booth, Ysgol Glan-y-Môr School, Heol Elfed, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, SA16 0AL Ffôn: 01554 836119 neu drwy e-bost: Diane.Booth@glanymor.cymru

Disgrifiad Swydd: 033531.pdf - 192KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 02/02/2025, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.