MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Glannau Dyfrdwy,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,550 - £26,189
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,550 - £26,189
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth
Teitl y Swydd: Ymgynghorydd Gwasanaethau Myfyrwyr
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Llawn Amser - Cyfnod Penodol tan 30 Mehefin 2025
Graddfa Gyflog: £25,550 - £26,189; Bydd y cyflog yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad.
Ar hyn o bryd mae Coleg Cambria yn chwilio am Ymgynghorydd Gwasanaethau Myfyrwyr i ymdrin â phob ymholiad gan ddysgwyr o ddydd i ddydd a chyhoeddi gwybodaeth briodol mewn ymateb, gan gynnwys wyneb yn wyneb, ffôn, sgwrsio ar-lein ac ymholiadau e-bost.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi dysgwyr ar faterion lles yn ogystal â lledaenu gwybodaeth i ddysgwyr ynghylch cyngor ac arweiniad cwrs, gwiriadau DBS, pasys trafnidiaeth i ddysgwyr.
Gofynion Hanfodol
- Safon dda o addysg (TGAU Gradd D ac uwch mewn llythrennedd a rhifedd)
- NVQ Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad
- Profiad o ddarparu cyngor ac arweiniad
- Profiad o ddelio â materion lles pobl ifanc
- Profiad o ddelio â sefyllfaoedd sensitif
- Gwybodaeth am faterion cymorth i ddysgwyr
- Gwytnwch personol i ymdopi ag amrywiaeth o sefyllfaoedd
- Sgiliau TGCh da
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog
- Yn gallu sefydlu perthnasoedd gwaith effeithiol, chwaraewr tîm cadarn
- Yn hunanhyderus ac yn dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu
- Creadigol, arloesol a dychmygus
- Yn agored ac yn ymateb i anghenion pobl eraill
- Yn gallu addasu'n gyflym i amgylchiadau newidiol a syniadau newydd
- Ymrwymiad i ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus
- Dangos empathi â diwylliant Cymru
- Dangos ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig