MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ebbw Vale,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £25,882 i £28,595
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 27 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,882 i £28,595
Gweinyddwr Campws x3Swydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos
1x a leolir ar gampws Parth Dysgu Blaenau Gwent
1x a leolir ar gampws Crosskeys
1x a leolir ar gampws Casnewydd
Rydym yn chwilio am weinyddwyr profiadol i ymuno â ni. Byddwch chi'n darparu cymorth gweinyddol o safon uchel i dimau cwricwlwm y campws o fewn tîm o Weinyddwyr Campws. Gan feddu ar brofiad o weithio mewn rôl weinyddol brysur ac amrywiol, byddwch chi'n gallu blaenoriaethu tasgau a'u cydlynu, gweithio'n effeithiol o fewn tîm, gweithio dan bwysau, a chynnal ymagwedd gymwynasgar a phroffesiynol wrth ymdrin ag aelodau o'r cyhoedd, aelodau staff eraill, a myfyrwyr.
Mae'r gallu i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu'n fodlon cael hyfforddiant) yn ddymunol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Gofynion a Chydymffurfedd
- Diogelu: Mae penodiadau'n amodol ar wiriad Uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad â Chyngor y Gweithlu Addysg (telir y costau gan yr ymgeisydd).
- Cymwysterau: Mae'n rhaid i ddarlithwyr feddu ar gymhwyster addysgu neu fod yn fodlon ennill cymhwyster addysgu (e.e. TAR) ymhen cyfnod penodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Coleg Gwent yn gyflogwr gwrth-hiliaeth, Hyderus o ran Anabledd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob hunaniaeth a phob dawn niwroamrywiol, gan annog ceisiadau yn benodol gan grwpiau a dangynrychiolir (Lleiafrifoedd Ethnig, benywaidd, LGBTQ+, a phobl ag anableddau). Mae'r cymorth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LGBTQ+, Anabledd, ayyb.) a grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Llesiant Staff
Rydym yn darparu cymorth iechyd cynhwysfawr, gan gynnwys:
- Mynediad at y gampfa a gweithgareddau llesiant â chymhorthdal.
- Mynediad at ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
- Campysau hygyrch ac ystafelloedd gweddïo.
Dyddiad cau: 27/09/26
Dyddiad y cyfweliadau: 07/10/26