MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,840 - £29,935
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Partner Busnes Cyllid Cynorthwyol CC/2781

Coleg Cambria

Cyflog: £27,840 - £29,935

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Partner Busnes Cyllid Cynorthwyol

Lleoliad: Llaneurgain

Math o Gontract : Parhaol - Llawn Amser 32 awr yn wythnos ((0.8649 FTE))

Cyflog: £26,388 - £28,374 (Pro Rata)

Rydym yn chwilio am Bartner Busnes Cyllid Cynorthwyol i ymuno â'n tîm Cyllid ar ein safle yn Llaneurgain. Mae opsiwn i weithio gartref ac ar safleoedd eraill o dro i dro/at ddibenion penodol yn ôl anghenion y busnes. Fel Partner Busnes Cyllid Cynorthwyol byddwch yn cynorthwyo gyda rheoli systemau ariannol, paratoi cyfrifon ariannol a rheoli a dadansoddi gwybodaeth cyfrifeg ariannol a rheolaethol o fewn y swyddogaeth Gyllid i gyflwyno gwasanaeth Partner Busnes ar draws holl feysydd y Coleg.

Cynorthwyo i baratoi cyfrifon rheoli a rhagolygon misol prydlon.

Datblygu systemau a thechnegau rheoli cyllideb priodol yn y Coleg, gan ddarparu cymorth priodol i ddeiliaid cyllidebau ar draws y Coleg

Monitro, paratoi a chyhoeddi adroddiadau cyllideb misol a gwybodaeth ymrwymo

Gweithio'n agos gyda Deiliaid Cyllideb i ddadansoddi amrywiannau ac archwilio problemau a chyfleoedd posibl gan wneud argymhellion priodol a chynghori ar yr effaith ariannol ar y Coleg.

Cefnogi'r Partner Busnes Cyllid i weithredu gwasanaeth Partneru Busnes ar draws holl feysydd y Coleg

Cynorthwyo gyda'r gwaith misol o fonitro a rhagweld cyllidebau staff a delir fesul awr.

Casglu gwybodaeth monitro Cyllideb Ddatganoledig yn fisol gan Reolwyr a chrynhoi.

Cynorthwyo i baratoi cyfrifon terfynol diwedd blwyddyn yn unol â'r holl ganllawiau perthnasol a gofynion statudol ar gyfer y Coleg

Mynd i gyfarfodydd gyda chydweithwyr, staff a rheolwyr i drafod cyllidebau a rhagolygon datganoledig.

Cwblhau datganiadau ariannol ac ystadegol ar gyfer gofynion rheoli ac adrodd allanol yn ôl yr angen.

Monitro cofnodion ariannol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau a'r gweithdrefnau ariannol

Paratoi a chysoni cysoniadau banc misol yn ôl yr angen

Cynorthwyo gyda llunio gweithdrefnau a systemau ariannol.

Sicrhau cywirdeb data trafodion a phrosesu ailgodi tâl ar ganolfannau cost priodol yn amserol.

Ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol gweinyddu swyddfa i gynorthwyo gyda'r swyddogaeth Cyllid.

Defnyddio dull sy'n "canolbwyntio ar wasanaeth" i'r holl staff a'r cwsmeriaid sy'n gywir, prydlon ac yn hawdd ei ddefnyddio

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n berthnasol i'r swydd

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 4 mewn Technegydd AAT
  • Yn gymwys mewn graddau TGAU A-C mewn Saesneg a Mathemateg.
  • Gallu defnyddio rhaglenni Google a Microsoft Office yn enwedig Word, Excel a PowerPoint. Gallu llywio'r Rhyngrwyd a Mewnrwydi hefyd
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm ehangach, a bod yn hyblyg a gallu addasu pan fo angen.
  • Gallu cynllunio a rheoli llwyth gwaith personol, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd.
  • Sgiliau trefnu rhagorol
  • Sgiliau rheoli amser rhagorol.
  • Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Gallu dangos gwytnwch personoler mwyn ymdopi ag ystod o sefyllfaoedd anodd
  • Rhagweithiol a hunanysgogol
  • Gallu ysgwyddo cyfrifoldeb personol am gyflwyno gwaith o safon uchel.
  • Adnabod cyfleoedd i wella a datblygu arferion presennol

Gallu dangos ymrwymiad trwy weithredoedd i Weledigaeth, Cenhadaeth, Gwerthoedd Craidd ac Ymddygiadau'r coleg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig