MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhadyr,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £25,882 - £28,595
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 27 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,882 - £28,595
Swyddog Diogelu'r CampwsSwydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio i benodi Swyddog Diogelu'r Campws brwdfrydig a hunangymhellol i ymuno â'n tîm. Gan weithio ar gampws Brynbuga, byddwch yn sicrhau amgylchedd saff, diogel a chroesawgar i staff, dysgwyr ac ymwelwyr trwy ddarparu presenoldeb amddiffynnol gweladwy ar draws y campws. Mae'r rôl yn helpu i gynnal llesiant dysgwyr, yn atal ymddygiad amhriodol ac yn cefnogi diogelu ac ymateb brys. Byddwch hefyd yn gweithredu fel cynrychiolydd blaen tŷ, gan hyrwyddo delwedd gadarnhaol o'r coleg.
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu'r parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg, ac ni fydd y rhain yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau yn y Saesneg.
Gofynion a Chydymffurfiaeth
- Diogelu: Mae'r penodiad yn amodol ar feddu ar wiriad DBS Manwl boddhaol a bod yn gofrestredig gyda'r CGA (mae'r ymgeisydd yn talu'r costau).
- Cymwysterau: Rhaid i ddarlithwyr feddu ar gymhwyster addysgu neu fod yn barod i ennill un (e.e., TAR) o fewn cyfnod penodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Coleg Gwent yn Gyflogwr gwrth-hiliol a Hyderus o ran Anabledd sydd yn ymrwymedig i gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob math o hunaniaeth a dawn niwroamrywiol, ac anogwn geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (Lleiafrifoedd Ethnig, Benywod, pobl LHDTC+, a phobl ag anableddau) yn arbennig. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LHDTC+, Anabledd, ayyb) a Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Llesiant Staff
Rydym yn darparu cefnogaeth iechyd gynhwysfawr sy'n cynnwys:
- Mynediad i'r gampfa a gweithgareddau llesiant â chymhorthdal.
- Mynediad i'r ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
- Campysau ac ystafelloedd gweddïo hygyrch.
Dyddiad Cau: 27/09/26
Dyddiad Cyfweld: 08/10/26