MANYLION
- Lleoliad: Carmarthenshire,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £59,054 - £67,823
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £59,054 - £67,823
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 1182
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Education, Children & Family Services Department
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd N
Cyflog: £59,054 - £67,823
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £30.61 - £35.15
Oriau Contract: 37 awr
Dewch i ymuno â'n tîm
Ydych chi'n angerddol am yr iaith Gymraeg a'i hyrwyddo a'i datblygiad yn Sir Gâr? Rydym yn chwilio am reolwr profiadol all arwain, a chydlynu gweithrediad a monitro Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a Strategaeth Hybu'r Gymraeg yn Sir Gâr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu addysgu a dysgu Cymraeg ac addysgu a dysgu dwyieithog ar draws pob lleoliad dysgu yn ogystal â gweithio gyda rhanddeiliaid Sirol ar hyrwyddo'r iaith Gymraeg, yn unol â pholisïau a strategaethau cenedlaethol a lleol.
Bydd angen gweithio'n strategol gyda sefydliadau a phartneriaid allweddol yn genedlaethol ac yn lleol i hyrwyddo'r iaith a diwylliant. Mae uchelgais y Cyngor i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ganolog i'r rôl hon yn ogystal â hybu'r defnydd cynyddol o'r Gymraeg yn ein cymunedau.
Bydd angen i ymgeiswyr fod â hanes cryf o lwyddiant a gallu i ysbrydoli staff, gwella gwasanaethau a gweithio'n gorfforaethol. Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar e-bost OLloyd@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 015701.pdf - 235KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 30/01/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.