MANYLION
  • Lleoliad: Ar draws pob campws,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £24,425 - £25,773
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Marchnata

Coleg Penybont

Cyflog: £24,425 - £25,773

Cynorthwyydd Marchnata

Graddfa gyflog 2/3: £24,425 - £25,773 y flwyddyn

Llawn Amser a Pharhaol

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gynorthwyydd Marchnata ymuno â'n Tîm Marchnata yng Ngholeg Penybont!

Fel Cynorthwyydd Marchnata, byddwch yn cefnogi cynllunio a chyflwyno ystod eang o weithgareddau marchnata. Bydd eich rôl yn cynnwys cynorthwyo gyda chipio cynnwys a gweithgareddau digidol i gefnogi hyrwyddo cyrsiau, gwasanaethau a mentrau'r coleg. Gyda chyfrifoldeb ystafell argraffu fewnol y tîm marchnata, byddwch yn cynhyrchu nwyddau amrywiol y gellir eu cyflawni gan sicrhau gwasanaeth effeithlon a phrofiad cwsmer rhagorol.

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.

Dyddiad cau: 12/01/2025

Dyddiad cyfweliad: 21/01/2025

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.