MANYLION
  • Lleoliad: Noted in the Job Description,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £17.81 - £19.82 yr awr, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Aseswr Dysgu yn y Gweithle - Nyrsio Deintyddol

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £17.81 - £19.82 yr awr, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Golyga'r swydd hon fod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a rheoli llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru ar gymwyster Nyrsio Deintyddol.
Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a sicrhau ansawdd gwaith y dysgwyr. Bydd yr asesydd yn goruchwylio dealltwriaeth a chymhwysedd ymarferol y dysgwyr yn y gweithle.
O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cyfarfod â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol. Ar y cyfan, bydd hyn yn digwydd yn ddigidol ond bydd peth teithio'n ddisgwyliedig, gan weithio'n annibynnol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymwysterau. Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol o ran cyfyngu ar deithio a gwneud y defnydd gorau o amser. Yn ogystal, bydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth i fodloni anghenion unigol pob dysgwr yn ei ddewis iaith.
Bydd yr asesydd yn cynrychioli tîm aseswyr Busnes a Digidol busnes@gllm a bydd disgwyl iddo hyrwyddo'r cyrsiau a gynigir er mwyn annog dysgwyr i gofrestru arnynt. Byddai'r gallu i addysgu grwpiau bach mewn sesiynau gweithdy ym maes Nyrsio Deintyddol yn fanteisiol.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/103/24

Cyflog
£17.81 - £19.82 yr awr, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol).

Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio
16 awr yr wythnos (Patrwn gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd) am 45 wythnos y flwyddyn

Noder os gwelwch yn dda - Bydd canran ychwanegol o 10% yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
17 Ion 2025
12:00 YH(Ganol dydd)