MANYLION
  • Lleoliad: Glynllifon,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £19.95 - £21.29 yr awr, gan gynnwys tâl gwyliau
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol Peirianneg Amaethyddol

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £19.95 - £21.29 yr awr, gan gynnwys tâl gwyliau

Mae'r adran Peirianneg Amaethyddol ag Amaeth wedi ei leoli ar safle Glynllifon. Mae myfyrwyr yn astudio cyrsiau llawn amser lefel 2 a 3 ac yn datblygu i waith, prentisiaeth neu brifysgol. Bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i'r byd gwaith trwy weithio i cyflogwyr sydd yn cynnig gwasaneuthau Amaethyddol ee. gweithiwr fferm, cynnal a chadw peiriannau a'r ffermydd neu trwy gontractio. Bydd rhai myfyrwyr yn mynd i ffermydd teuluol i weithio.

Gydag arweiniad, fe fydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau y myfyrwyr trwy gynllunio gweithgareddau ymarferol. Mae'r tasgau hyn yn dilyn cynllun gwaith sy'n datblygu yn ystod y tymor i sefydlu cymhwysedd myfyrwyr fel eu bod yn cyrraedd gofynion y cwrs.

Dyma esiampl o'r gweithgareddau sydd yn cael eu cyflawni gan myfyrwyr:
  • Gyru peiriannau fferm (tractor/Telehandler)
  • Gweithio gyda da byw - dosio, pwyso, didoli, wynau, lloi.
  • Cynnal a chadw offer fferm - Tractor, telehandler, byrnwr crwn, chwalwr tail, taenwr gwrtaith
  • Gwaith cynnal a chadw stad - ffensio, walio, gosod giatiau.

Bydd gofyn i'r Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol gyfranu at ystod o'r gweithgareddau yma yn ddibynol ar arbenigedd a ffrofiad.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/102/24

Cyflog
£19.95 - £21.29 yr awr, gan gynnwys tâl gwyliau

Lleoliad Gwaith
  • Glynllifon

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio
7.5 awr yr wythnos. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd am 34 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y coleg)

Bydd canran ychwanegol o 10% yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
16 Ion 2025
12:00 YH(Ganol dydd)