MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Carmarthenshire,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £49,878 - £52,805
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes Ymgynghorol - Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £49,878 - £52,805
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 1102
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Cymorth Cynhwysiant
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Soulbury 8-10
Cyflog: £49,878 - £52,805
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £25.85- £27.37
Oriau Contract: 37
Soulbury SPA Points:
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae'r Adran Cynhwysiant yn bwriadu penodi athro/athrawes arbenigol sydd â phrofiad addas ar gyfer rôl Athro Ymgynghorol ar gyfer ADY. Bydd gan yr unigolyn brofiad helaeth o addysgu a chefnogi dysgwyr ag ADY, dangos ymroddiad, gwytnwch a phenderfyniad i sicrhau'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc ag ADY. Byddwch yn drefnus, yn gweithio'n galed, ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Byddwch yn cyfathrebu'n glir ac yn gallu datblygu perthnasoedd gwaith da gyda phlant ifanc, eu teuluoedd, ac ystod eang o weithwyr proffesiynol eraill.
Bydd y rôl yn cynnwys arwain mewn cydweithrediad ag Athro Cynghori eraill ar gefnogi ysgolion i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADYar draws yr agenda 0-25. Bydd gofyn iddynt gysylltu ag ysgolion, rhieni, plant a phobl ifanc a rhanddeiliaid ehangach i sicrhau bod darpariaeth a chynlluniau yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn gadarn wrth ddiwallu anghenion y plentyn. Bydd gan yr unigolyn wybodaeth a phrofiad o ddarparu rhaglenni hyfforddi effeithiol ac uwchsgilio staff ar ystod o ddatblygiadau a dulliau gweithredu yn seiliedig ar ADY/Ysgol.
Bydd yr unigolion penodedig yn gweithio'n agos gydag ystod eang o gydweithwyr ar draws yr Adran Gynhwysiant. Bydd gofyn iddynt weithio i lefel uchel o gywirdeb ac o fewn gofynion deddfwriaeth berthnasol a therfynau amser penodol. Byddai gwybodaeth a dealltwriaeth o feysydd penodol ac arbenigol iawn oADY yn fanteisiol, fodd bynnag darperir hyfforddiant.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Elinor Williams / Rebecca Williams (Rheolwr ADY), yng Nghyngor Sir Caerfyrddin ar 01267 246455 / erwilliams@carmarthenshire.gov.uk / rawilliams@carmarthenshire.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 029875.pdf - 146KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 23 Ionawr 2025
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 4 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 30/01/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.