MANYLION
  • Lleoliad: Tondu Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £19,864 - £20,511 per annum
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Gweinyddol – Ysgol Gynradd Tondu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £19,864 - £20,511 per annum

Swyddog Gweinyddol - Ysgol Gynradd Tondu
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Amser Tymor
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Tondu yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Gweinyddol brwdfrydig i ymuno â'n swyddfa brysur.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol a chlercol a fydd yn cynnwys cymryd cofnodion, teipio adroddiadau cyfrinachol amrywiol a dogfennau eraill. Rhaid ichi allu dangos safon uchel a chywir o sgiliau teipio a phrosesu geiriau.

Byddai rhywfaint o wybodaeth am y pecyn SIMS yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol; fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr fod yn hyddysg mewn cyfrifiadura, ac yn meddu ar sgiliau prosesu geiriau a rhifedd gwych. Mae'r gallu i weithio o fewn terfynau amser tynn yn un o'r gofynion hanfodol ar gyfer y swydd.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn rhifog, yn drefnus, yn meddu ar sgiliau teipio a chyfathrebu gwych ac yn gallu gweithio'n dda mewn tîm gyda dull hyblyg tuag at weithio.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 09 Ionawr 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 10 Ionawr 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 13 Ionawr 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person