MANYLION
  • Lleoliad: Aberteifi, SA43 1AB
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd mewn Brics

Coleg Sir Gar

Cyflog: £25,372 - £46,431 / blwyddyn

Darlithydd mewn Brics
Application Deadline: 6 January 2025

Department: Creative and Applied Industries

Employment Type: Cyfnod Penodol - Rhan Amser

Location: Campws Aberteifi

Reporting To: Pennaeth Diwydiannau Creadigol a Chymhwysol

Compensation: £25,372 - £46,431 / blwyddyn

DescriptionRydym yn chwilio am Ddarlithydd ymroddedig a gwybodus mewn Brics i ymuno â'n tîm a chwarae rhan hanfodol wrth lunio'r genhedlaeth nesaf o grefftwyr medrus. Byddwch yn gyfrifol am addysgu ac asesu dysgwyr ar y rhaglenni astudio, gan gydlynu gyda thîm y cwrs, Pennaeth Aberteifi a darparwyr diwydiant allanol wrth gyflwyno'r cwricwlwm. Wrth ysgogi eich perfformiad eich hun, byddwch hefyd yn darparu'r profiad gorau oll i ddysgwyr, gan feithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol a hybu ymgysylltiad, cyfranogiad a llwyddiant myfyrwyr.

Mae'r Adran Adeiladu wedi'i lleoli ar Gampws Aberteifi, Coleg Ceredigion.Mae'n cynnwys dau brif faes crefft: Gosod Brics a Gwaith Saer. Cyflwynir y ddau faes crefft mewn gweithdai pwrpasol sy'n gallu cynnwys nifer uchel o ddysgwyr fesul cwrs. Rydym yn cynnig Lefel 1 mewn Gosod Brics a Gwaith Saer hefyd, cyrsiau Sylfaen Lefel 2 mewn Gosod Brics a phlastro yn ogystal â Lefel 2 mewn Gwaith Saer a Gwaith Toi. Ar ben hynny, rydym yn cynnig Prentisiaethau Lefel 3 mewn Gosod Brics, Gwaith Saer ac Asiedydd.

Rydym yn cydweithio â chyflogwyr o bob rhan o Geredigion a'r siroedd cyfagos, gyda nifer uchel o Brentisiaid o fewn Gosod Brics a Gwaith Saer yn cwblhau eu cyrsiau priodol yn llwyddiannus. Ystyriwn ein Darpariaeth Adeiladu 14-16 i Ysgolion fel cyflwyniad i Addysg Bellach ac mae'n caniatáu i ddysgwyr fwydo'n uniongyrchol o hyn i gyrsiau prif ffrwd. Rydym yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn Cystadlaethau Sgiliau, ar lefel ranbarthol a Chenedlaethol hefyd ac rydym wedi mwynhau llwyddiant aruthrol dros y blynyddoedd ac yn dymuno i hyn barhau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r timau presennol a bydd disgwyl iddo gyfrannu at bob agwedd o'r adrannau hyn yn ogystal â darpariaethau eraill o fewn y Maes Cwricwlwm.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Ymgymryd â'r gwaith o addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio sy'n arwain at gymwysterau mewn Bioleg, Gwyddoniaeth Gymhwysol L3, Mynediad i Addysg Uwch a'r Dystysgrif Her Sgiliau;
  • Datblygu gwersi arloesol a heriol a chynhyrchu cynlluniau gwersi a Chynlluniau Gwaith sy'n cyflawni meini prawf y bwrdd arholi;
  • Sicrhau bod cyrsiau yn gwahaniaethu ar gyfer yr holl ddysgwyr ar gyrsiau Safon Uwch a chyrsiau Mynediad i Addysg Uwch Gwyddoniaeth a Mynediad i Addysg Uwch Gofal Iechyd;
  • Olrhain a Monitro cynnydd myfyrwyr ar gyrsiau ac unedau penodedig;
  • Cysylltu gyda Thechnegwyr Gwyddoniaeth i sicrhau profiad effeithiol, cynhwysol i'r dysgwr mewn sesiynau gwyddoniaeth ymarferol ac yn y labordai.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
  • TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
  • Profiad diwydiannol perthnasol
  • Profiad addysgu perthnasol ar ddarpariaeth AB, AU ac ysgolion 14-19 Darpariaeth
  • Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
  • Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
  • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
Dymunol:
  • Trwydded yrru gyfredol
  • Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg
  • Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein