MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,608 - £36,748
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,608 - £36,748
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr UnigolynColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith - Plymwaith
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £32,608 - £36,748
Ydych chi'n barod i feithrin y genhedlaeth nesaf o blymwyr medrus?
Rydyn ni'n chwilio am Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith angerddol a hunan-gymhellol i ymuno â'n tîm Plymwaith deinamig. Os ydych chi wrth eich bodd yn galluogi prentisiaid i gyflawni eu potensial llawn a bod gennych chi ddawn o ddod â phrofiad diwydiant byd go iawn i fyd addysg, gallai hon fod yn swydd berffaith i chi..
Fel aelod allweddol o'n tîm, byddwch chi'n:
- Asesu a chynorthwyo dysgwyr i ennill eu cymwysterau yn unol â gofynion y Sefydliad Dyfarnu.
- Rheoli llwyth achosion o ddysgwyr, gan gynnal Dadansoddiadau Anghenion Hyfforddi i sicrhau eu bod ar y llwybr cywir ar gyfer eu hasesiad pwynt terfynol.
- Hwyluso cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu diddorol sy'n helpu dysgwyr i lwyddo.
- Cyflwyno sesiynau rhyngweithiol ar gyfer cynllunio asesiadau prosiect ymarferol ar ffurf gweithdai un-i-un a grwpiau bach (hyd at 8 dysgwr).
- Cymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn Plymwaith (neu gyfwerth) a bod yn gymwys i gofrestru ar gyfer GasSafe.
- Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol, gan gynnwys gweithio tuag at:
- Cymhwyster Asesydd (TAQA)
- Cymhwyster Sicrhau Ansawdd (TAQA Uned 401)
- Llythrennedd Digidol Lefel 2
- Cymhwyster Asesydd (TAQA)
- Cymwysterau Saesneg a Mathemateg Lefel 2 (neu gymwysterau cyfwerth) gradd C (4) neu uwch.
- Profiad sylweddol yn y diwydiant a'r gallu i gydweithio â phartneriaid allanol yn y diwydiant.
- Sgiliau digidol cadarn, ac yn hyderus wrth ddefnyddio offer fel Google Workspace a rhaglenni Microsoft.
- Sgiliau rheoli amser a threfnu rhagorol a'r gallu i fodloni terfynau amser
Sgiliau a phrofiad dymunol:
- Sgiliau Iaith Gymraeg
- Cymwysterau neu brofiad mewn technolegau adnewyddadwy fel systemau solar thermol
Pam ymuno â ni?
Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni'n ymfalchïo mewn rhagori ar ddisgwyliadau drwy ddarparu addysg arloesol, ysbrydoledig ac o ansawdd uchel. Byddwch chi'n gweithio mewn amgylchedd cefnogol sy'n gwerthfawrogi twf proffesiynol a llwyddiant dysgwyr.
Os ydych chi'n barod i gael dylanwad sylweddol a chynorthwyo myfyrwyr i wireddu eu nodau, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig