MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 3 - £24,027 pro rata
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu (Lefel 1) - Ysgol Gynradd Llandyfái
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Grade 3 - £24,027 pro rata
Gradd 3 - £24,027.00 am 28 awr yr wythnos ar 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £15,553.20 pro rata.Mae'r swydd hon yn un cyfnod penodol tan 31 Awst 2025.
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - Lefel 1
Yn Ysgol Gynradd Llandyfái, rydym yn ymfalchïo mewn creu amgylchedd dysgu cefnogol a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael ei annog i gyrraedd ei lawn botensial. Mae ein tîm wedi ymrwymo i feithrin cariad at ddysgu a darparu'r dechrau gorau posibl i'n disgyblion.
Rôl a chyfrifoldebau:
- Gweithio'n agos gydag athrawon y dosbarth derbyn a meithrin i gefnogi dysgu a datblygiad pob disgybl.
- Cynorthwyo i ddarparu gweithgareddau atyniadol sy'n briodol i'w hoedran.
- Darparu cymorth unigol i ddisgyblion, gan eu helpu i oresgyn heriau a chyflawni eu nodau.
- Meithrin amgylchedd ystafell ddosbarth cadarnhaol a chynhwysol.
- Cydweithio â chydweithwyr i sicrhau dull tîm cydlynol a chefnogol.
- Monitro ac adrodd ar gynnydd disgyblion i athrawon a rhieni yn ôl yr angen.
Mae addysg hyd at safon dda a dealltwriaeth o anghenion a hawliau plant / pobl ifanc, ynghyd â sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn hanfodol i'r rôl hon.
Bydd rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ar gyfer y swydd hon.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Mr S. Thomas, Pennaeth.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.