MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £12.45 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwy-ydd Cegin Cyffredinol Wrth Gefn - Gwasanaethau Arlwyo
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £12.45 yr awr
Cynorthwy-ydd Cegin Cyffredinol Wrth Gefn - Gwasanaethau ArlwyoDisgrifiad swydd
Swyddi ar gael ym Mhencoed, Litchard, West Park, Tondu, YGG Bro Ogwr, Maes yr Haul, Coety, Brynmenyn, Tremains ac Ysgol Gynradd Bryncethin.
Yn ôl yr Angen
Tymor yr Ysgol
Gan ddarparu prydau i ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig i 56 o ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol, mae gan y Gwasanaethau Arlwyo amrywiaeth o gyfleoedd i chi weithio fel Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol ar draws eu gwasanaeth a hoffent glywed gennych.
Mae'r rôl yn cynnwys cynorthwyo wrth baratoi, cyflwyno a gweini prydau ysgol, wrth ddarparu amgylchedd diogel, glân i ddisgyblion a staff. Bydd yn ofynnol i chi osod byrddau a chadeiriau bwyta ac, mewn rhai ysgolion, gall fod yn ofynnol gweithredu terfynell sgrin gyffwrdd - rhoddir hyfforddiant wrth ddechrau.
Mae cwmpasu ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn un o ofynion y rôl yn ogystal â chael Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Dau; darperir hyfforddiant os bydd angen i'ch helpu i gyflawni hyn.
Bydd yr oriau gwaith yn cael eu cadarnhau ar ôl penodi ond byddant rhwng 10.00am a 2.30pm, i gefnogi'r cyfnodau egwyl canol bore ac amser cinio, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, ffoniwch Emma Bennett ar 01656 815964 a fydd yn croesawu eich cais.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 8 Ionawr 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 9 Ionawr 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 13 Ionawr 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person