MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £9,042 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £9,042 / blwyddyn
Cynorthwyydd Cegin CyffredinolApplication Deadline: 6 January 2025
Department: Arlwyo a Lletygarwch
Employment Type: Contract Cyfnod Penodol
Location: Campws Pibwrlwyd
Reporting To: Pennaeth y Celfyddydau Creadigol a Choginiol
Compensation: £9,042 / blwyddyn
DescriptionYdych chi'n frwdfrydig dros y celfyddydau coginio a chefnogi cenedlaethau nesaf y diwydiant arlwyo a lletygarwch? Oes gennych chi sgiliau technegol cryf o ran paratoi bwyd, rheoli cegin, a chynnal a chadw cyfarpar? Os felly, mae gennym gyfle cyffrous i chi fel Technegydd mewn Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn ymroddedig ac effeithlon ymuno â'r tîm yn ein cyfleuster arlwyo sef Cegin Sir Gâr ar ein Campws ym Mhibwrlwyd, Caerfyrddin.Cegin Sir Gâr yw cyfleuster hyfforddi Coleg Sir Gâr ar gyfer pen-cogyddion uchelgeisiol a staff maître d'. Mae gan y bwyty, sy'n cynnig bwydlen table d'hote, enw da ers tro am ansawdd ei fwyd a'i wasanaeth lle gellir mwynhau gastronomeg ansawdd bwyty am brisiau rhesymol.
Y rôl yw darparu cymorth technegol i gefnogi rhedeg sesiynau addysgu ymarferol a Gwasanaeth Bwyty yn ddiffwdan. Byddai'r rôl hon yn addas iawn ar gyfer rhywun sy'n gyfathrebwr gwych gyda sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ynghyd â'r gallu i weithio'n hyblyg ochr yn ochr â chydweithwyr a dysgwyr.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ddarparu cymorth a chefnogaeth cyffredinol yn y gegin, paratoi a chasglu deunyddiau a chyfarpar ar gyfer staff addysgu a dysgwyr;
- Cynnal lefelau uchel o hylendid yn ystod gwaith paratoi / glanhau'r gegin a'r bwyty ac amgylchedd gwaith glân a diogel, gan gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch;
- Glanhau a chynnal cyfarpar yn ôl cynlluniau, anghenion neu ofynion i sicrhau rhediad esmwyth yr adran arlwyo a lletygarwch, gan dderbyn hyfforddiant perthnasol fel a pan fo'n angenrheidiol;
- Cynnal storio bwydydd, diodydd, cyfarpar a deunyddiau yn gywir yn y storfeydd yn unol â gofynion gweithdrefnau'r coleg a deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
- Cefnogi a gweithio ochr yn ochr âєr technegydd ac (pan fo angen) archebu bwydydd, diodydd, offer a deunyddiau;
- Ffeilio danfonebau nwyddau a chwblhau gwaith papur o fewn y system storio yn unol â gweithdrefnau adrannol ac ariannol;
- Trin a rheoli arian mân yn unol â gweithdrefnau ariannol;
- Trin arian o werthiannau bwyd yn unol â gweithdrefnau ariannol;
- Cynnal stocrestr o'r holl eitemau, cadw cofnodion o doriadau a cholledion;
- Gwneud yn siŵr bod cyfleusterau Arlwyo yn lân ac yn daclus bob amser
- Cefnogi'r gwaith o gydlynu gwasanaethau golchi
- Cymryd rhan yng nghyfarfodydd tîm y cwrs a chyfarfodydd y maes cwricwlwm yn ôl y gofyn;
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Profiad perthnasol o'r maes/meysydd technegol cysylltiedig
- Bod yn gymwys wrth ddefnyddio cyfarpar a pheiriannau'r gegin
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Y gallu i weithio'n hyblyg
- Sgiliau cyflwyno da
- Cymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Arlwyo a Lletygarwch neu gymhwyster cysylltiedig â'r diwydiant (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
- TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, mae'n bosibl y bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant)
- Dealltwriaeth dda o'r rôl cymorth technegol mewn Addysg Bellach ac Uwch
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein