MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £50, 319 - £53, 609 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Rheolwr Prosiectau Cyfalaf ( Cytundeb 3 blynedd, cyfnod penodol)
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £50, 319 - £53, 609 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y SwyddRydym yn chwilio am Reolwr Prosiectau Cyfalaf profiadol i gyflwyno rhaglen o brosiectau cyfalaf yn ddiogel ac yn effeithiol ar draws 16 safle'r Coleg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am dîm gweithredol gan gynnwys y Swyddfa Rheoli Rhaglen (PMO), Clercod Gwaith a Goruchwylwyr NEC. Bydd y rôl yn gyfrifol am gyrchu a gweithio'n effeithiol gydag ymgynghorwyr i sicrhau bod prosiectau'n cael eu dylunio a'u cyflawni'n effeithiol, am ddatblygu prosiectau unigol trwy gamau dylunio amlinellol a manwl (gan weithio'n effeithiol gyda Grwpiau Defnyddwyr), ac am reolaeth ariannol effeithiol prosiectau o fewn y gyllideb.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli'r prosesau rheoleiddio (fel cael trwyddedau perthnasol) sy'n gysylltiedig â'r prosiectau cyfalaf a bydd yn gyfrifol am nodi, olrhain, rheoli a lliniaru'r holl risgiau a materion perthnasol ar draws cylch bywyd cyfan y prosiect. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod pob prosiect yn cael ei gwblhau mewn modd amserol gan ddatrys problemau wrth iddynt godi, a chynnal systemau rheoli newid cryf drwyddo draw. Yn ystod y cam gwaith safle, bydd deiliad y swydd yn rheoli caffael prif gontractwyr ac yn sicrhau bod systemau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch contractwyr, ac i reoli newid a chostau.
Bydd deiliad y swydd yn cynnal ac yn cynhyrchu'r holl gofnodion gweithredol, adroddiadau prosiect ac adroddiadau cau fel sy'n ofynnol gan yr holl randdeiliaid, gan gynnwys cyllidwyr Grant allanol. Yn yr un modd, sicrhau bod yr holl fuddion cymunedol y cytunwyd arnynt yn cael eu gwireddu. Yn gyfathrebwr rhagorol, bydd yn rhaid i Ddeilydd y Swydd weithio'n effeithiol gyda'r holl randdeiliaid, gan weithio'n rhagweithiol gyda'u Tîm, y Cyfarwyddwr, uwch-ddeiliaid swyddi eraill yn fewnol, ac ar adegau perthnasol, ymgynghorwyr allanol a chontractwyr.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CS/093/24
Cyflog
£50, 319 - £53, 609 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
- 37 diwrnod y flwyddyn (1 Medi - 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
09 Ion 2025
12:00 YH(Ganol dydd)