MANYLION
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £22,944 - £24,897 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cyfieithydd (Cymraeg i Saesneg, Saesneg i Gymraeg)

Coleg Sir Gar

Cyflog: £22,944 - £24,897 / blwyddyn

Cyfieithydd (Cymraeg i Saesneg, Saesneg i Gymraeg)
Application Deadline: 8 January 2025

Department: Dwyieithrwydd

Employment Type: Parhaol

Location: I gael ei gadarnhau

Reporting To: Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell a Safonau'r Gymraeg

Compensation: £22,944 - £24,897 / blwyddyn

DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.

Mae'r tîm cyfieithu yn darparu gwasanaeth cyfieithu mewnol ar gyfer y tîm Gweithredol, staff addysgu a staff cymorth ar draws saith campws y Coleg. Rôl y cyfieithydd yw cyfieithu dogfennau a gyflwynir yn effeithlon, gan sicrhau bod terfynau amser yn cael eu bodloni a bod cyfieithu o safon uchel yn cael ei gynnal bob amser. Bydd ganddo lygad craff am fanylion a bydd ganddo'r gallu i weithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser tynn. Bydd ganddo'r gallu i gyfieithu dogfennau'n hyderus o'r Saesneg i'r Gymraeg yn ogystal ag o'r Gymraeg i'r Saesneg. Gall dogfennau fod yn amrywiol, gan gynnwys adnoddau dysgu ar gyfer yr ystod eang o feysydd cwricwlwm, polisïau'r Coleg, dogfennau gweinyddol a phostiadau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Mae'r uned yn defnyddio meddalwedd cof cyfieithu WordFast. Mae angen sgiliau rhyngbersonol a threfniadol rhagorol gan y bydd gofyn i ddeilydd y swydd gysylltu â staff ar draws y Coleg yn rheolaidd.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Weithio fel aelod effeithiol a hyblyg o'r tîm er mwyn darparu gwasanaeth cyfieithu effeithlon a chywir i holl staff Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.
  • Dod yn hyderus wrth ddefnyddio'r system gyfieithu fewnol i gymryd a dychwelyd gwaith wedi'i gyfieithu i staff academaidd a gweinyddol yn y Coleg.
  • Cyfieithu ar y lefel uchaf, gan wirio a phrawfddarllen cyn dychwelyd.
  • Cyfieithu amrywiaeth o ddeunyddiau ysgrifenedig, gan gynnwys dogfennau swyddogol, cynnwys marchnata, taflenni myfyrwyr a thestunau technegol.
  • Meddu ar y gallu i addasu naws, arddull a therminoleg yn seiliedig ar y gynulleidfa darged neu'r pwnc dan sylw.
  • Sicrhau cysondeb ym mhob cyfieithiad a gynhyrchir o ran terminoleg a safonau, i'w defnyddio yn fewnol ac yn allanol hefyd.
  • Ymateb i geisiadau cyfieithu a dderbynnir trwy e-bost a throsglwyddo'r rhain i'r system electronig fewnol.
  • Defnyddio ei sgiliau ymchwil er mwyn ymchwilio'n effeithiol i'r cyfieithiad o ran termau newydd, anghyfarwydd neu dermau technegol
  • Bod yn gymwys wrth ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu. Mae'r Coleg yn defnyddio Wordfast.
  • Prawfddarllen a golygu gwaith a gyfieithwyd gan aelodau eraill o'r tîm yn ôl yr angen.
  • Dirprwyo ar ran yr Uwch Gyfieithydd yn ôl yr angen.
  • Cysylltu â staff mewnol y Coleg yn ôl yr angen i drafod manylion eu ceisiadau
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Gradd neu gymhwyster ôl-raddedig yn y Gymraeg
  • Profiad perthnasol o gyfieithu, Cymraeg i Saesneg a Saesneg i Gymraeg (gorau oll yn y sector addysg)
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu
  • Llythrennedd cyfrifiadurol cryf wrth ddefnyddio ystod o msystemau a phecynnau TG gan gynnwys Google Suite
  • Sgiliau ymchwil rhagorol
  • Y gallu i ymdrin â cheisiadau cyfieithu lluosog ar yr un pryd
  • Medrus wrth flaenoriaethu tasgau, bodloni terfynau amser a rheoli prosiectau cyfieithu lluosog ar yr un pryd
  • Sgiliau cyfathrebu cryf a'r gallu i weithio'n gytûn â chydweithwyr
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Lefel uchel o gywirdeb personol a chyfrinachedd
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Talu sylw i fanylion gyda ffocws cryf ar gywirdeb ac ansawdd
Dymunol:
  • Profiad o weithio mewn cyfleuster cyfieithu
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd cyfieithu Wordfast
  • Profiad fel cyfieithydd Ar y Pryd
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 4
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 4
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein