MANYLION
  • Lleoliad: Ar draws pob campws,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £29,004 - £35,131 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

Coleg Penybont

Cyflog: £29,004 - £35,131 y flwyddyn

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

Gradd Gyflog 5/6 : £29,004 - £35,131 y flwyddyn

Llawn Amser a Pharhaol

Pwrpas y Swydd: Creu a rheoli cynnwys organig y telir amdano ar brif sianeli cyfryngau cymdeithasol Coleg Penybont, gan sicrhau bod allbynnau digidol yn ddeniadol ac yn yn gyson â'n strategaeth a'n brand.

Os ydych chi wedi gwirioni ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn deall sut y gellir defnyddio cynnwys amlgyfrwng deniadol mewn marchnata, yna efallai mai'r rôl hon yw'r un i chi!

Bydd gennych brofiad o ysgrifennu a chreu cynnwys dwyieithog ar gyfer cynulleidfaoedd ar-lein a profiad o greu cynnwys amrwyiol ar draws gwahanol sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys ffotograffiaeth a fideo e.e. reels. Bydd gennych radd neu gyfwerth, ac mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol iawn.Er y gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn rôl unigryw, bydd yn cael ei chyfuno â chyfrifoldebau marchnata a chyfathrebu eraill.

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd .

Dyddiad cau: 05/01/2025

Dyddiad cyfweliad: 14/01/2025

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.