MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060 pro rata
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch - Ysgol Harri Tudur

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060 pro rata

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch

Yn ofynnol cyn gynted â phosibl

36 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig, Gradd 6

Gradd 6 - £27,269 am 36 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £23,305.82 pro rata, gan godi i 46.8 wythnos y flwyddyn, £26,252.13 pro rata, ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.

Rydym yn chwilio am unigolyn cadarn ond teg, dynamig, uchelgeisiol a brwdfrydig sydd â sgiliau rhyngbersonol ardderchog a'r gallu i uniaethu â disgyblion, a gwneud gwahaniaeth go iawn. Efallai fod gennych gefndir addysgu ond yn yr un modd gallech fod â chefndir mewn gwaith ieuenctid neu brofiad o weithio gyda phobl ifanc.

Mae Ysgol Harri Tudur yn ysgol gyffrous a chroesawgar i weithio ynddi. Mae ein hysgol yn parhau ar ei thaith gwelliant cyflym er mwyn ceisio rhagoriaeth, yn dilyn ein hadroddiad cadarnhaol gan Estyn ym mis Ionawr 2022.

Rydym yn croesawu'n gynnes ymgeiswyr dawnus, uchelgeisiol, egnïol a gwydn sydd nid yn unig yn dymuno ymuno â ni ar y daith honno, ond sy'n gallu ac yn barod i wneud cyfraniad gwerthfawr at ei llwyddiant yn y dyfodol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • Yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol
  • Yn arbenigwr pwnc arloesol
  • Yn gyfathrebwr rhagorol
  • Yn meddu ar y weledigaeth a'r ysgogiad i sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn llwyddo
  • Yn ysgogi, herio, cefnogi ac ysbrydoli ein disgyblion
  • Yn ymrwymedig i godi cyrhaeddiad ar draws pob gallu, beth bynnag fo man cychwyn y dysgwr
  • Yn ymrwymedig i gefnogi pob cydweithiwr
  • Yn meddu ar brofiad o weithredu newid sy'n cael dylanwad cadarnhaol ar addysg disgyblion

Ar gyfer ymweliadau anffurfiol â'r ysgol, cysylltwch â Rheolwr Busnes yr ysgol, Mr Nick Makin

I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Mr Tom Crichton drwy anfon neges e-bost i contact@yht.wales , neu ffoniwch 01646 682461

Ewch i'n gwefan www.yht.wales

Dylai ymgeiswyr lenwi ffurflen gais a chyflwyno llythyr cais sy'n nodi sut y maent yn bodloni meini prawf manyleb yr unigolyn

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.