MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,437 - £26,077
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweinyddydd Adnoddau Dynol (rhaglenni iechyd) CC/2760

Coleg Cambria

Cyflog: £25,437 - £26,077

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y swydd: Gweinyddydd Adnoddau Dynol (rhaglenni iechyd)

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o gontract: Parhaol; Rhan-amser 55% (20.35 awr yr wythnos)

Cyflog: £25,437- £26,077 (dyma'r cyflog llawn amser, bydd y cyflog yn pro rata yn dibynnu ar y patrwm gwaith)

Yma yng Ngholeg Cambria rydyn ni'n chwilio am Weinyddydd Adnoddau Dynol i ymuno â'n tîm Adnoddau Dynol (AD).

Dyma gyfle gwych i ymgymryd â rôl amrywiol ym maes AD i rywun sy'n ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o safon. Byddwch chi'n darparu cefnogaeth i gydlynu a gweinyddu rhaglenni iechyd AD fel olrhain iechyd, clinigau iechyd galwedigaethol a mentrau brechu,

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd roi cymorth gweinyddol ym mhob cam o gylch gwaith gweithwyr gan gynnwys cefnogi'r broses recriwtio ac ymsefydlu lawn.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sylw gwych i fanylder ac mae sgiliau trefnu yn allweddol, gan y byddant yn gyfrifol am brosesu mentrau AD fel cydlynu clinigau olrhain iechyd a brechu. Yn ystod cyfnodau tawelach, efallai bydd gofyn i chi gynorthwyo gyda dogfennau contractau chyflogaeth a newidiadau i delerau ac amodau gan gynnwys diweddaru systemau perthnasol a llythyrau i staff.

Bydd y gweinyddydd AD yn gyfrifol am sicrhau safon ardderchog wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig bob amser.

Gofynion Hanfodol
  • NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes neu gymhwyster L3 cyfwerth perthnasol
  • NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid
  • Cymhwyster Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol neu'n barod i weithio tuag at hynny
  • Profiad profedig o reoli llwyth gwaith penodedig mewn amgylchedd gweinyddu/busnes prysur
  • Profiad profedig o ymdrin a chysylltu â chwsmeriaid mewnol ac allanol
  • Profiad o weithio gyda gwybodaeth gyfrinachol
  • Dangos lefel dda o gymhwysedd TG. Rhaid gallu llywio'r Rhyngrwyd a'r Mewnrwydi yn ogystal â bod yn barod i ddysgu sut i ddefnyddio pecynnau a systemau TG newydd
  • Sgiliau trefnu ardderchog a gallu gweithio ar nifer o weithgareddau
  • Cymryd cyfrifoldeb personol dros ddarparu gwaith o ansawdd.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig