MANYLION
Mewngofnodwch i ymgeisio
- Lleoliad: Conwy, Conwy, LL32 8ED
- Testun: Swyddog Cyfathrebu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 06 Ionawr, 2025 12:00 y.p
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
Ystod Cyflog: GO3 (£4,112- £4,181)
Mae hon yn swydd barhaol o oddeutu 7.5 awr (1 diwrnod) yr wythnos, tymor ysgol yn unig, lle rhennir y swydd gyda’r deiliad swydd presennol. Union oriau i’w cytuno â’r ymgeisydd llwyddiannus mewn cyfweliad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun Ionawr 6ed 2025
Dyddiad cychwyn yn y swydd: Chwefror 2025 neu mor fuan â phosibl.
Rydym yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig a llawn cymhelliant i ddatblygu a chynnal systemau cyfathrebu mewnol ac allanol yr ysgol. Bydd y person hwn yn gweithio’n annibynnol ac yn greadigol er mwyn:
• codi proffil yr ysgol yn y gymuned leol drwy hyrwyddo ein brand,
• cynnal ein proffil yn y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol,
• cynnal gwefan yr ysgol,
• trefnu cyhoeddi prosbectysau a dogfennau eraill
• cynnal systemau cyfathrebu mewnol, bwletinau ac arddangosfeydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio rhan amser gan rannu swydd gyda deiliad presennol y swydd, yn dilyn cyfnod sefydlu a hyfforddiant.
Mae’n adeg gyffrous i ymuno ag Ysgol Aberconwy, sef ysgol gyfun gymysg sy’n gofalu am 1100 o ddisgyblion 11-18 oed. Mae’r ysgol wedi ei lleoli ar safle newydd sbon ar lan Afon Conwy brydferth, yn nhref ganoloesol Conwy ar arfordir Gogledd Cymru, yn agos i Barc Cenedlaethol Eryri. Mae agosrwydd Ysgol Aberconwy at ffordd ddeuol yr A55 yn hwyluso’r daith i bob rhan o Ogledd Cymru, Sir Gaer a’r Wirral. Mae’r ysgol yn cynnig adnoddau ardderchog, ac mae gan bob athro fynediad at dechnoleg bersonol ynghyd ag ystafelloedd TGCh ar gyfer eu maes cwricwlwm.
Mae’r amrywiaeth o fewn cymuned yr ysgol yn sicrhau bod yr ysgol yn lle bywiog a diddorol i weithio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos gallu i drefnu a chyfathrebu i safon uchel yn gyson, a bydd ganddynt brofiad o weithio gyda phlant ag amrywiaeth o anghenion dysgu.
Rydym yn cynnig:
• Rhaglen fentora gadarn a chynhwysfawr
• Rhaglen datblygiad proffesiynol a hyfforddiant gadarn ar gyfer athrawon a staff cynorthwyol, wedi’i theilwra ar eich cyfer.
• Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth.
• Ysbryd cymunedol cryf.
• Staff cefnogol iawn.
JOB REQUIREMENTS
Lawrlwythwch y Pecyn Gwybodaeth i Ymgeisydd i gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon.
https://www.aberconwy.conwy.sch.uk/cy/job-opportunities/