MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Gradd 6 (£27,269 x 77.15%) + Lwfans AAA (£1,491 x 75.15%)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer dosbarth cynnal dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Gradd 6 (£27,269 x 77.15%) + Lwfans AAA (£1,491 x 75.15%)

Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer dosbarth cynnal dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4

Disgrifiad Swydd
Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer dosbarth cynnal dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol) yn Ysgol Nant-gwyn.

Oriau: 32.5 (Term Time Only)

Cyflog: Gradd 6 (£27,269 x 77.15%) + Lwfans AAA (£1,491 x 75.15%)

Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted â phosibl

Hoffai Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf benodi cynorthwy-ydd cynnal dysgu, i ddechrau ym Ionawr 2025. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cymwysterau a'r profiad priodol i roi cymorth i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol mewn dosbarth cynnal dysgu yn Ysgol Nant-gwyn. Bydd y dosbarth yma ar gyfer hyd at ddeuddeg o ddisgyblion rhwng 11 a 16 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Yn gyfrifol am y dosbarth mae un athro a dau gynorthwy-ydd cynnal dysgu.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a bydd wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol sy'n berthnasol i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Michael Condon yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ, ar 01443 744333.

Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar 09/01/2025.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.