MANYLION
  • Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Salary Scale 1: £24,425 per annum (pro-rata)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Arlwyo

Coleg Penybont

Cyflog: Salary Scale 1: £24,425 per annum (pro-rata)

Cynorthwyydd Arlwyo (Campws Pencoed)

Graddfa Gyflog 1: £24,425 y flwyddyn (pro-rata)

Rhan Amser - 27.5 Awr yr Wythnos

Parhaol - Amser Tymor yn Unig

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Arlwyo ar Gampws Pencoed i ymuno â thîm arlwyo bywiog a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont.

Cynorthwyo gyda pharatoi bwyd a diod sylfaenol (gan gynnwys coffi barista), cynorthwyo i gynnal a chadw glanhawramgylchedd diogel ac i wasanaethu cwsmeriaid i safon uchel.

Os oes gennych sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych, ac rydych yn mwynhau gweithio yn y maes arlwyo, hoffem glywed gennych!

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma: Pecyn Gwybodaeth Swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.