MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: L7 £58,844 - L13 £68,090
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth – Ysgol Gynradd Gymunedol Sageston

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: L7 £58,844 - L13 £68,090

Dechrau mis Medi 2025 neu'n gynt, os yn bosibl.

ISR L7 - L13

Math o gontract: Amser llawn

Cyfnod y contract: Parhaol

Nifer ar y gofrestr: 109 cyfwerth ag amser llawn (Ionawr 2024)

Gwahoddir ceisiadau am y swydd amser llawn hon fel pennaeth yn yr ysgol gymunedol gynnes, gyfeillgar ac uchelgeisiol hon.Fel rhan o'r rôl hon, disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd ag ymrwymiad addysgu 0.5, rhywbeth y byddai angen i'r unigolyn ei 'ystyried mewn ffordd gadarnhaol a'i groesawu.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • yn arweinydd brwdfrydig, ysbrydoledig ac arloesol yn meddu ar sgiliau amlwg o reoli
  • yn athro brwdfrydig, ymroddedig ac effeithiol sy'n perfformio'n dda
  • yn hawdd mynd ato, ac arddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf
  • yn ysbrydoli pob unigolyn i fod y fersiwn orau o'i hun
  • yn arddangos ymroddiad i ragoriaeth ym myd addysg
  • yn ymrwymedig i gynnal safonau uchel a gwelliant parhaus
  • yn cynnal a datblygu polisi drws agored yr ysgol, gan feithrin partneriaethau rhwng disgyblion, rhieni/gofalwyr, staff, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach
  • yn gweithredu gweledigaeth glir ar gyfer datblygiad parhaus yr ysgol gynradd lwyddiannus hon

Mae plant Ysgol Gynradd Gymunedol Sageston yn chwilio am bennaeth sydd:

  • yn gweithio'n dda gyda phlant ac yn gwrando arnynt
  • yn feddylgar, yn weithgar, yn ymroddedig ac yn ddigynnwrf
  • bob amser yno i gefnogi a gwrando, ac yn gallu datrys problemau'n ddigynnwrf
  • yn gofalu amdanoch
  • yn cymryd rhan yn yr hyn sy'n digwydd yn yr ysgol
  • yn gyfeillgar, yn gwenu ac yn hwyliog

Mae plant Ysgol Gynradd Gymunedol Sageston yn chwilio am bennaeth sydd:

  • yn egnïol ac yn frwdfrydig
  • yn ymroddedig i'r ysgol
  • yn rhoi plant yn gyntaf
  • yn garedig ac yn ymarferol
  • yn deall rhieni/gofalwyr, yn ogystal â phlant
  • wedi ymrwymo i lesiant y disgyblion, y staff a'r gymuned ehangach

Mae'r ysgol yn cynnig y canlynol:

  • plant hapus, llawn cymhelliant, brwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu
  • tîm sefydledig, ymroddedig a thalentog o staff
  • Corff llywodraethu ymrwymedig
  • perthnasoedd cadarnhaol iawn â rhanddeiliaid
  • amgylchedd modern gyda digon o offer fel y gall pawb ddysgu gyda'i gilydd

Mae gan ein hysgol dîm o staff brwdfrydig sy'n cael eu cynorthwyo gan ein corff llywodraethu profiadol. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac yn datblygu fel dysgwyr uchelgeisiol a galluog. Rydym yn falch o gyflawniadau ein disgyblion yn Ysgol Gynradd Sageston ac yn awyddus i rannu gwybodaeth i'ch helpu i wneud cais llwyddiannus. Cymerwch y cyfle i wylio'r ffilm fer ar wefan yr ysgol, a baratowyd gan rai o'n disgyblion. Mae'r ffilm yn trafod yr hyn y mae'r dysgwyr yn chwilio amdano yn eu pennaeth newydd a pham y dylech ystyried Ysgol Gynradd Sageston fel cyfle gwych. Ein plant yw ein hysbyseb gorau!

Rydym yn croesawu ymholiadau gan bartïon â diddordeb, a gallwn hwyluso ymweliadau â'r ysgol. Gellir trefnu hyn drwy ffonio'r ysgol ar 01646 651471 a fydd wedyn yn cysylltu â chadeirydd y llywodraethwyr.

Dyddiad cau: Dydd Llun, 6 Ionawr 2025

Llunio'r rhestr fer: Dydd Iau, 8 Ionawr 2025

Diwrnod cyfweld 1: Dydd Iau, 16 Ionawr 2025

Diwrnod cyfweld 2: Dydd Gwener, 17 Ionawr 2025

Cynhelir cyfweliadau diwrnod 1 yn yr ysgol. Lleoliad ar gyfer diwrnod 2 i'w gadarnhau.

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.