MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberteifi, SA43 1AB
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £6,198 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £6,198 / blwyddyn
Aseswr Gosod BricsDepartment: Creative and Applied Industries
Employment Type: Cyfnod Penodol - Rhan Amser
Location: Campws Aberteifi
Reporting To: Pennaeth Diwydiannau Creadigol a Chymhwysol
Compensation: £6,198 / blwyddyn
DescriptionMae hon yn rôl gyffrous sydd wedi'i chynllunio i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflwyno ac asesu NVQs yn y gweithle a rhaglenni prentisiaeth ar draws y gyfadran.
Byddwch yn darparu cymorth trwy sicrhau bod ansawdd rhaglenni yn bodloni'r safonau gofynnol yn fewnol ac yn allanol hefyd er mwyn darparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau oll i'n dysgwyr.
Rhaid i ddeilydd y swydd ddangos menter, sgiliau trefniadol da a sgiliau rheoli amser cadarn. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio i lwyth achosion y cytunwyd arno ac fel y cyfryw gofynnir iddo/iddi weithio'n helaeth oddi ar y safle i ateb galwadau'r rôl. Cytunir nifer union y llwyth achosion gyda Thîm Rheoli'r Gyfadran a'r Uwch IQA a bydd yn amrywio yn ôl dosbarthiad daearyddol y prentisiaid a'r teithio y mae hyn yn ei olygu, ond bydd o gwmpas rhwng 45 a 50 o ddysgwyr.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Weithio'n agos gyda'r Rheolwr Llinell ar bob agwedd o'r ddarpariaeth
- Cynnal rhaglenni cynefino cynhwysfawr gyda dysgwyr a phrentisiaid yn ôl manyleb y rhaglen
- Cynnal asesiad o'r dysgwyr yn eich galwedigaeth arbenigol, ar y safle ac yn y coleg
- Asesu dysgwyr yn erbyn y cymwysterau perthnasol yn ôl y safonau a osodwyd gan y meysydd cwricwlwm a'r Corff Dyfarnu priodol
- Cyflwyno gweithdai i ddysgwyr fel bo / pan fo hynny'n berthnasol
- Hwyluso gwybodaeth greiddiol berthnasol i lenwi bylchau yn sgiliau ymgeiswyr fel y bo'n briodol
- Ymgymryd â phrosesau Sicrhau Ansawdd Mewnol yn unol â strategaeth y coleg a'r sefydliad dyfarnu
- Cyflawni'r cymhwyster Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu o fewn cyfnod o 12 mis ble bo hyn yn ofynnol gan y sefydliad dyfarnu a/neu'r coleg
- Wrth weithio gyda phrentisiaid, sicrhau bod KPIs y rhaglen yn cael eu bodloni
- Ymgymryd â gwiriad Iechyd a Diogelwch llawn o adeiladau a safleoedd cyflogwr gan wneud yn siŵr bod eu systemau rheolaeth ar gyfer Iechyd a Diogelwch o fewn y canllawiau cyn dechrau'r rhaglen
- Sicrhau bod cyflogwyr yn cael gwybod am gynnydd yn erbyn pob targed a phresenoldeb mewn dosbarthiadau
- Cefnogi a mentora'r dysgwyr drwy gydol eu cymhwyster gan eu galluogi i gwblhau yn llwyddiannus a'u cyfeirio at y cam dysgu nesaf
- Sicrhau bod yna gyswllt effeithiol rhwng rheolwyr, athrawon, tiwtoriaid ac ymgynghorwyr hyfforddi i wneud yn siŵr bod cynnydd pob dysgwr yn golygu ei fod yn cwblhau ei fframwaith mewn pryd
- Sicrhau bod yr holl brosesau gweinyddol/digidol sy'n gysylltiedig â'r rôl yn cael eu cwblhau i'r safonau uchaf ac mewn pryd
- Cynnal datblygiad proffesiynol parhaus personol
- Sicrhau bod y themâu croestoriadol e.e. ADCDF, Cymwysterau Sgiliau Hanfodol, Prevent a'r Gymraeg yn cael eu hymgorffori yn y prosesau cyflwyno ac asesu
- Defnyddio a chynnal systemau olrhain priodol gan ddefnyddio Maytas Hub wrth weithio gyda phrentisiaethau
- Ar y cyd â staff darlithio, paratoi, cynllunio a chydosod deunyddiau dysgu ac asesu
- Gweithredu fel sianel rhwng cyflogwyr a'r coleg i sicrhau bod yr holl gysylltiadau busnes yn cael eu cyfeirio at y BDI
- Cynrychioli'r coleg mewn digwyddiadau, rhwydweithiau a chyfarfodydd, pan fo'n ofynnol
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- NVQ Lefel 3-5 neu uwch
- Profiad diwydiannol perthnasol o fewn y maes galwedigaethol
- TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Y gallu i ddefnyddio ystod o Systemau TG a phecynnau gan gynnwys Microsoft WORD, EXCEL Pecynnau teilwredig a rhaglenni sy'n seiliedig ar gwmwl
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Sgiliau cyflwyno da
- Y gallu i deithio ar draws campysau ac ymweld â chyflogwyr yn y gweithle yn genedlaethol
- Dyfarniadau Aseswr (Ar gyfer ymgeiswyr newydd nad ydynt yn meddu ar Ddyfarniad Aseswr, darperir cefnogaeth gan y coleg i gyflawni'r safonau gofynnol o fewn ffrâm amser gytunedig)
- IOSH Rheoli'n Ddiogel
- Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
- Cymhwyster Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu (ble bo'n ofynnol) i'w gyflawni o fewn 12 mis
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus sydd yn dangos ymgysylltiad mewn gweithgareddau i gynnal y wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf am arferion, cynnyrch a chyfarpar
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein