MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £24,425 - £25,773 pro rata y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £24,425 - £25,773 pro rata y flwyddyn
Technegydd Cefn Gwlad20 awr yr wythnos
Yn ystod y tymor yn unig (36.6 wythnos y flwyddyn) a Chyfnod Penodol hyd at 31ain Awst 2025
Graddfa Gyflog 3: £24,425 - £25,773 pro rata y flwyddyn
Sylwch y bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau a weithiwyd yn ystod y flwyddyn academaidd. Byddai cyflog bras yn seiliedig ar 21 wythnos yn weddill o flwyddyn academaidd 2024/25 yn £5,949 - £6,277
Pwrpas y swydd: Cyflawni dyletswyddau Cefn Gwlad ac Amaethyddiaeth gyffredinol a chynnal a chadw/paratoi offer ymarferol.
Byddwch yn cynorthwyo gyda rheolaeth cyfleusterau Cefn Gwlad, Amaethyddiaeth a thir y coleg gan gynnwys ffensio, rheoli glaswelltir a ffiniau, cynnal a chadw gweithdai, a thrwsio/cynnal a chadw peiriannau ac offer. Byddwch hefyd yn cynorthwyo darlithwyr yn y gweithdy yn ystod sesiynau ymarferol lle bo angen.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gwybodaeth a phrofiad da o reoli cefn gwlad ac amaethyddiaeth yn gyffredinol a chymhwyster Lefel 3 neu uwch mewn Cadwraeth Amgylcheddol, Amaethyddiaeth neu bwnc cysylltiedig. Byddwch hefyd yn meddu ar brofiad o sgiliau cadwraeth ymarferol megis ffensio, plygu perthi a rheoli ffiniau.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.