MANYLION
  • Lleoliad: Coety Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth L12 ££66,430 – L16 £73,426
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth – Coety Primary School

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth L12 ££66,430 – L16 £73,426

Dirprwy Bennaeth - Coety Primary School
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Ar gyfer mis Ebrill 2025 (Tymor yr Haf)
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Coety yn chwilio am Ddirprwy Bennaeth ymrwymedig, brwdfrydig, arloesol, ac uchelgeisiol gyda hanes amlwg o wella ysgolion i ymuno â thîm arwain dynamig. Gwahoddir ceisiadau gan uwch arweinwyr profiadol a/neu ddirprwy benaethiaid presennol sydd am ehangu eu datblygiad arweinyddiaeth.

Yn Ysgol Gynradd Coety, credwn mewn disgwyliadau uchel, ymdeimlad o gydweithio, a brwdfrydedd cadarnhaol sy'n ennyn y gorau yn ein tîm a'n disgyblion. Rydym yn buddsoddi mewn datblygu a dysgu proffesiynol er mwyn helpu ein tîm staff i greu amgylchedd llwyddiannus, diogel, bywiog a difyr i'n holl blant a chymuned ehangach yr ysgol.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy'n:
  • Ymarferydd ystafell ddosbarth effeithiol iawn gyda'r profiad o addysgu ar draws y cyfnod cynradd;
  • Angerddol am addysg ac yn meddu ar yr ymrwymiad a'r egni i arwain addysgu a dysgu ar draws yr ysgol, gan alluogi'r holl blant i wneud cynnydd cryf a llwyddo;">Parodrwydd i hyrwyddo'r Gymraeg;">Arweinydd ysgol sy'n tyfu ac yn datblygu;">Angerddol am hunanwerthuso a gwella ysgolion;">Darpar bennaeth;">Yn awyddus i dyfu'n broffesiynol;">Hyblyg, gweithgar a brwdfrydig;">Yn meddu ar ddisgwyliadau uchel ar gyfer dysgu, ymddygiad, llesiant a gofal yr holl ddisgyblion
  • Ymrwymedig i safonau uchel;">Sgiliau trefnu, rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol;">Yn gwbl gefnogol o werthoedd ac ethos ein hysgol gynhwysol;">Chwaraewr tîm;">Unigolyn sydd â'r bersonoliaeth a'r egni i gynorthwyo'r Pennaeth a'r llywodraethwyr wrth arwain a rheoli'r ysgol.

Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno ag Ysgol Gynradd Coety gan ein bod hanner ffordd drwy drawsnewidiad sylweddol.

Rydym yn gwahodd darpar ymgeiswyr i gael taith o amgylch yr ysgol ddydd Iau, 9 Ionawr, am 16:30. Os hoffech ddod i'r ymweliad hwn, cysylltwch a chadarnhau eich presenoldeb gyda Mrs Rhian Phillips, Rheolwr Busnes yr ysgol – 01656 754 990 neu anfonwch e-bost at adminmanager@coetyps.bridgend.cymru.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 16 Ionawr 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Ionawr

Arsylwadau Gwers: Wythnos yn dechrau 27 Ionawr a 03 Chwefror 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 13 & 14 Chwefror 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person